1 Corinthiaid 1:26-30
1 Corinthiaid 1:26-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ffrindiau annwyl, cofiwch sut oedd hi arnoch chi pan ddaethoch chi i gredu! Doedd dim llawer ohonoch chi’n bobl arbennig o glyfar, na dylanwadol, na phwysig. Pobl gyffredin oeddech chi. Ond chi wnaeth Duw eu dewis – y rhai ‘twp’, i godi cywilydd ar y rhai hynny sy’n meddwl eu bod nhw’n glyfar! Dewisodd Duw bobl gyffredin yng ngolwg y byd i godi cywilydd ar y pwysigion hynny sy’n dal grym. Dewisodd y bobl sy’n ‘neb’, y bobl hynny mae’r byd yn edrych i lawr arnyn nhw, i roi taw ar y rhai sy’n meddwl eu bod nhw’n ‘rhywun’. Does gan neb le i frolio o flaen Duw! Fe sydd wedi’i gwneud hi’n bosib i chi berthyn i’r Meseia Iesu. Ac mae doethineb Duw i’w weld yn berffaith yn Iesu. Fe sy’n ein gwneud ni’n iawn gyda Duw. Mae’n ein gwneud ni’n lân ac yn bur, ac mae wedi talu’r pris i’n rhyddhau ni o afael pechod.
1 Corinthiaid 1:26-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ystyriwch sut rai ydych chwi a alwyd, gyfeillion: nid oes rhyw lawer ohonoch yn ddoeth yn ôl safon y byd, nid oes rhyw lawer yn meddu awdurdod, nid oes rhyw lawer o dras uchel. Ond pethau ffôl y byd a ddewisodd Duw er mwyn cywilyddio'r doeth, a phethau gwan y byd a ddewisodd Duw i gywilyddio'r pethau cedyrn, a phethau distadl y byd, a phethau dirmygedig, a ddewisodd Duw, y pethau nid ydynt, i ddiddymu'r pethau sydd. Ac felly, ni all neb ymffrostio gerbron Duw. Ond trwy ei weithred ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaed yn ddoethineb i ni oddi wrth Dduw, yn gyfiawnder a sancteiddhad a phrynedigaeth.
1 Corinthiaid 1:26-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys yr ydych yn gweled eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o rai doethion yn ôl y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o rai boneddigion, a alwyd: Eithr Duw a etholodd ffôl bethau’r byd, fel y gwaradwyddai’r doethion; a gwan bethau’r byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai’r pethau cedyrn; A phethau distadl y byd, a phethau dirmygus, a ddewisodd Duw, a’r pethau nid ydynt, fel y diddymai’r pethau sydd: Fel na orfoleddai un cnawd ger ei fron ef. Eithr yr ydych chwi ohono ef yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaethpwyd i ni gan Dduw yn ddoethineb, ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddrwydd, ac yn brynedigaeth