Ffrindiau annwyl, cofiwch sut oedd hi arnoch chi pan ddaethoch chi i gredu! Doedd dim llawer ohonoch chi’n bobl arbennig o glyfar, na dylanwadol, na phwysig. Pobl gyffredin oeddech chi. Ond chi wnaeth Duw eu dewis – y rhai ‘twp’, i godi cywilydd ar y rhai hynny sy’n meddwl eu bod nhw’n glyfar! Dewisodd Duw bobl gyffredin yng ngolwg y byd i godi cywilydd ar y pwysigion hynny sy’n dal grym. Dewisodd y bobl sy’n ‘neb’, y bobl hynny mae’r byd yn edrych i lawr arnyn nhw, i roi taw ar y rhai sy’n meddwl eu bod nhw’n ‘rhywun’. Does gan neb le i frolio o flaen Duw! Fe sydd wedi’i gwneud hi’n bosib i chi berthyn i’r Meseia Iesu. Ac mae doethineb Duw i’w weld yn berffaith yn Iesu. Fe sy’n ein gwneud ni’n iawn gyda Duw. Mae’n ein gwneud ni’n lân ac yn bur, ac mae wedi talu’r pris i’n rhyddhau ni o afael pechod.
Darllen 1 Corinthiaid 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Corinthiaid 1:26-30
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos