1 Cronicl 4:9-10
1 Cronicl 4:9-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Iabets yn cael ei barchu fwy na’i frodyr. (Rhoddodd ei fam yr enw Iabets iddo am ei bod wedi cael poenau ofnadwy pan gafodd e ei eni.) Gweddïodd Iabets ar Dduw Israel, “Plîs bendithia fi, a rhoi mwy o dir i mi! Cynnal fi! Cadw fi’n saff fel bod dim rhaid i mi ddioddef!” A dyma Duw yn ateb ei weddi.
1 Cronicl 4:9-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd Jabes yn bwysicach na'i frodyr; galwodd ei fam ef yn Jabes am iddi, meddai, esgor arno mewn poen. Gweddïodd Jabes ar Dduw Israel, a dweud, “O na fyddit yn fy mendithio ac yn ehangu fy nherfynau! O na fyddai dy law gyda mi i'm hamddiffyn oddi wrth niwed rhag fy mhoeni!” Rhoddodd Duw ei ddymuniad iddo.
1 Cronicl 4:9-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr oedd Jabes yn anrhydeddusach na’i frodyr; a’i fam a alwodd ei enw ef Jabes, gan ddywedyd, Oblegid i mi ei ddwyn ef trwy ofid. A Jabes a alwodd ar DDUW Israel, gan ddywedyd, O na lwyr fendithit fi, ac na ehengit fy nherfynau, a bod dy law gyda mi, a’m cadw oddi wrth ddrwg, fel na’m gofidier! A pharodd DUW ddyfod iddo yr hyn a ofynasai.