1 Cronicl 29:1-20
1 Cronicl 29:1-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r Brenin Dafydd yn dweud wrth y gynulleidfa: “Llanc ifanc dibrofiad ydy fy mab Solomon, yr un mae Duw wedi’i ddewis i wneud hyn. Mae’r dasg o’i flaen yn un fawr, achos nid adeilad i ddyn fydd hwn, ond i’r ARGLWYDD Dduw. Dw i wedi gwneud fy ngorau glas i ddarparu popeth sydd ei angen i wneud y gwaith – aur, arian, pres, haearn a choed, heb sôn am lot fawr o feini gwerthfawr, fel onics (a morter glas i’w gosod nhw a’r meini eraill), gemau gwerthfawr o bob math, a marmor. Ond dw i hefyd am gyfrannu fy holl drysorau personol tuag at y gwaith, am fod teml Dduw mor bwysig yn fy ngolwg i. Bydd hyn yn ychwanegol at bopeth arall dw i wedi’i ddarparu ar gyfer y gwaith. Mae’n cynnwys mwy na 100 tunnell o aur Offir a dros 250 tunnell o arian coeth, i orchuddio waliau’r adeilad, a’r gwaith arall sydd i’w wneud gan y crefftwyr. Felly pwy arall sydd am gyfrannu heddiw tuag at adeiladu teml Dduw?” Dyma benaethiaid y teuluoedd, arweinwyr y llwythau, capteiniaid yr unedau o fil ac o gant, a’r swyddogion oedd yn arolygu gwaith y brenin yn cyfrannu at y gwaith. Dyma gafodd ei roi ganddyn nhw: dros 180 tunnell o aur, 10,000 o ddarnau aur, 375 tunnell o arian, a 3,750 tunnell o haearn. Dyma pawb yn cyfrannu eu gemau gwerthfawr i drysordy teml yr ARGLWYDD hefyd, oedd dan ofal Iechiel o deulu Gershon. Roedd pawb wrth eu boddau fod cymaint wedi’i gasglu, a bod pawb wedi bod mor barod i roi. Roedd y Brenin Dafydd hefyd wrth ei fodd. ARGLWYDD Dyma Dafydd yn moli’r ARGLWYDD o flaen y gynulleidfa gyfan: “O ARGLWYDD, Duw ein tad Israel, rwyt ti’n haeddu dy fendithio am byth bythoedd! O ARGLWYDD, ti ydy’r Duw mawr, cryf, godidog, ac enwog sy’n teyrnasu dros bopeth yn y nefoedd a’r ddaear! Ti ydy’r un sy’n ben ar y cwbl i gyd! Oddi wrthot ti mae pob cyfoeth ac anrhydedd yn dod, achos ti sy’n rheoli’r cwbl i gyd. Gen ti mae pob cryfder a nerth, a ti sy’n rhoi nerth i bobl, ac yn eu gwneud nhw’n enwog. Diolch i ti ein Duw! Dŷn ni’n moli dy enw bendigedig di! “Ond pwy ydw i, a phwy ydy fy mhobl i, ein bod ni’n gallu cyfrannu fel yma? Y gwir ydy, oddi wrthot ti mae popeth yn dod yn y pen draw. Dŷn ni ddim ond yn rhoi yn ôl i ti beth sydd biau ti. O dy flaen di, dŷn ni fel ffoaduriaid yn crwydro, fel ein hynafiaid. Mae’n hamser ni ar y ddaear yma yn pasio heibio fel cysgod. Does dim byd sicr amdano. O ARGLWYDD ein Duw, dŷn ni wedi casglu’r holl gyfoeth yma i adeiladu teml i ti a dy anrhydeddu di, ond ti sydd wedi’i roi e i gyd mewn gwirionedd; ti sydd biau’r cwbl. Dw i’n gwybod, O Dduw, dy fod ti’n gwybod beth sydd ar feddwl rhywun, ac yn falch pan mae rhywun yn onest. Ti’n gwybod mod i’n gwneud hyn am resymau da, a dw i wedi gweld y bobl yma’n cyfrannu’n frwd ac yn llawen. O ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, Abraham, Isaac ac Israel, gwna i dy bobl bob amser fod eisiau gwneud beth ti’n ddweud. Gwna nhw’n hollol ffyddlon i ti. A gwna fy mab Solomon yn awyddus i ufuddhau i dy orchmynion, rheolau a gofynion, a gorffen adeiladu y deml yma dw i wedi gwneud y paratoadau ar ei chyfer.” Yna dyma Dafydd yn annerch y gynulleidfa: “Bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw!” A dyma’r gynulleidfa gyfan yn moli’r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. A dyma nhw’n plygu i lawr yn isel o flaen yr ARGLWYDD a’r brenin.
1 Cronicl 29:1-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd y Brenin Dafydd wrth yr holl gynulleidfa, “Y mae fy mab Solomon, a ddewiswyd gan Dduw, yn ifanc a dibrofiad, ond y mae'r gwaith yn fawr oherwydd mai palas i'r ARGLWYDD Dduw, ac nid i fod dynol, yw hwn. Yr wyf wedi paratoi hyd eithaf fy ngallu ar gyfer tŷ fy Nuw; rhoddais aur ar gyfer popeth aur, arian ar gyfer popeth arian, pres ar gyfer popeth pres, haearn ar gyfer popeth haearn a choed ar gyfer popeth o goed. Rhoddais hefyd feini onyx a meini i'w gosod, meini glas ac amryliw, gemau gwerthfawr o bob math, a llawer o alabastr. Hefyd, am fy mod yn ymhyfrydu yn nhŷ fy Nuw, yr wyf wedi rhoi fy nhrysor personol o aur ac arian i dŷ fy Nuw; ar ben y cwbl, yr wyf wedi paratoi ar gyfer y cysegr dair mil o dalentau o aur Offir a saith mil o dalentau o arian coeth, i'w rhoi'n haenau ar barwydydd y tai, yr aur ar gyfer popeth aur, a'r arian ar gyfer popeth arian, ac ar gyfer holl waith y rhai celfydd. Pwy sy'n barod i ymgysegru o'i wirfodd i'r ARGLWYDD heddiw?” Yna rhoddodd arweinwyr y teuluoedd, penaethiaid llwythau Israel, capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, a swyddogion gwaith y brenin i gyd offrwm gwirfodd. Rhoesant at waith tŷ Dduw bum mil o dalentau aur, deng mil o ddariciau, deng mil o dalentau arian, deunaw mil o dalentau pres a chan mil o dalentau haearn. Yr oedd pob un a feddai emau gwerthfawr yn eu rhoi yn nhrysordy tŷ'r ARGLWYDD a oedd dan ofal Jehiel y Gersoniad. Yr oedd eu haelioni yn achos llawenydd i'r bobl am eu bod yn offrymu i'r ARGLWYDD o'u gwirfodd ac â chalon berffaith. Yr oedd y Brenin Dafydd hefyd yn llawen iawn. ARGLWYDD Bendithiodd yr ARGLWYDD o flaen yr holl gynulleidfa a dweud, “Bendigedig wyt ti, ARGLWYDD Dduw Israel ein tad, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. I ti, ARGLWYDD, y perthyn mawredd, gallu, gogoniant, ysblander a mawrhydi; oherwydd y mae popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear yn eiddo i ti; ti, ARGLWYDD, biau'r deyrnas, ac fe'th ddyrchafwyd yn ben ar y cwbl. Oddi wrthyt ti y daw cyfoeth ac anrhydedd, a thi sy'n arglwyddiaethu ar bopeth; yn dy law di y mae nerth a chadernid, a thi sy'n rhoi cynnydd a chryfder i bob dim. Yn awr, ein Duw, moliannwn di a chlodforwn dy enw gogoneddus. Oherwydd pwy wyf fi a'm pobl i fedru rhoi o'n gwirfodd fel hyn? Canys oddi wrthyt ti y daw popeth, ac o'th eiddo dy hun y rhoesom iti. Dieithriaid ac alltudion ydym ni yn dy olwg, fel ein holl hynafiaid; y mae ein dyddiau ar y ddaear fel cysgod, a heb obaith. ARGLWYDD ein Duw, eiddot ti yw'r holl gyfoeth hwn a phopeth arall a roesom o'r neilltu i adeiladu tŷ iti er anrhydedd i'th enw sanctaidd. Gwn, fy Nuw, dy fod yn profi'r galon ac yn ymhyfrydu mewn cyfiawnder. Â chalon uniawn yr offrymais o'm gwirfodd yr holl bethau hyn; ac yn awr gwelais dy bobl sydd wedi ymgynnull yma yn offrymu iti yn llawen ac o'u gwirfodd. ARGLWYDD Dduw Abraham, Isaac ac Israel, ein tadau, cadw'r dyhead hwn yng nghalon dy bobl am byth, a thro eu calon atat. Rho galon berffaith i Solomon fy mab, iddo gadw dy orchmynion, dy dystiolaethau a'th ddeddfau, a'u gwneud bob un, ac iddo adeiladu'r deml a ddarperais i.” Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, “Yn awr bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw.” Yna bendithiodd yr holl gynulleidfa ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid trwy ymostwng ac ymgrymu i'r ARGLWYDD ac i'r brenin.
1 Cronicl 29:1-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y dywedodd Dafydd y brenin wrth yr holl dyrfa, DUW a ddewisodd yn unig fy mab Solomon, ac y mae efe yn ieuanc, ac yn dyner, a’r gwaith sydd fawr; canys nid i ddyn y mae y llys, ond i’r ARGLWYDD DDUW. Ac â’m holl gryfder y paratoais i dŷ fy NUW, aur i’r gwaith aur, ac arian i’r arian, a phres i’r pres, a haearn i’r haearn, a choed i’r gwaith coed; meini onics, a meini gosod, meini carbunculus, ac o amryw liw, a phob maen gwerthfawr, a meini marmor yn aml. Ac eto am fod fy ewyllys tua thŷ fy NUW, y mae gennyf o’m heiddo fy hun, aur ac arian, yr hwn a roddaf tuag at dŷ fy NUW; heblaw yr hyn oll a baratoais tua’r tŷ sanctaidd: Tair mil o dalentau aur, o aur Offir; a saith mil o dalentau arian puredig, i oreuro parwydydd y tai: Yr aur i’r gwaith aur, a’r arian i’r arian; a thuag at yr holl waith, trwy law y rhai celfydd. Pwy hefyd a ymrŷdd yn ewyllysgar i ymgysegru heddiw i’r ARGLWYDD? Yna tywysogion y teuluoedd, a thywysogion llwythau Israel, a thywysogion y miloedd a’r cannoedd, a swyddogion gwaith y brenin, a offrymasant yn ewyllysgar, Ac a roddasant tuag at wasanaeth tŷ DDUW, bum mil o dalentau aur, a deng mil o sylltau, a deng mil o dalentau arian, a deunaw mil o dalentau pres, a chan mil o dalentau haearn. A chyda’r hwn y ceid meini, hwy a’u rhoddasant i drysor tŷ yr ARGLWYDD, trwy law Jehiel y Gersoniad. A’r bobl a lawenhasant pan offryment o’u gwirfodd; am eu bod â chalon berffaith yn ewyllysgar yn offrymu i’r ARGLWYDD: a Dafydd y brenin hefyd a lawenychodd â llawenydd mawr. Yna y bendithiodd Dafydd yr ARGLWYDD yng ngŵydd yr holl dyrfa, a dywedodd Dafydd, Bendigedig wyt ti, ARGLWYDD DDUW Israel, ein tad ni, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. I ti, ARGLWYDD, y mae mawredd, a gallu, a gogoniant, a goruchafiaeth, a harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd ac yn y ddaear sydd eiddot ti; y deyrnas sydd eiddot ti, ARGLWYDD, yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth. Cyfoeth hefyd ac anrhydedd a ddeuant oddi wrthyt ti, a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth a chadernid; yn dy law di hefyd y mae mawrhau, a nerthu pob dim. Ac yn awr, ein DUW ni, yr ydym ni yn dy foliannu, ac yn clodfori dy enw gogoneddus. Eithr pwy ydwyf fi, a phwy yw fy mhobl i, fel y caem ni rym i offrymu yn ewyllysgar fel hyn? canys oddi wrthyt ti y mae pob peth, ac o’th law dy hun y rhoesom i ti. Oherwydd dieithriaid ydym ni ger dy fron di, ac alltudion fel ein holl dadau: fel cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear, ac nid oes ymaros. O ARGLWYDD ein DUW, yr holl amlder hyn a baratoesom ni i adeiladu i ti dŷ i’th enw sanctaidd, o’th law di y mae, ac eiddot ti ydyw oll. Gwn hefyd, O fy NUW, mai ti sydd yn profi y galon, ac yn ymfodloni mewn cyfiawnder. Myfi yn uniondeb fy nghalon, o wirfodd a offrymais hyn oll; ac yn awr y gwelais dy bobl a gafwyd yma yn offrymu yn ewyllysgar i ti, a hynny mewn llawenydd. ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, ein tadau, cadw hyn yn dragywydd ym mryd meddyliau calon dy bobl; a pharatoa eu calon hwynt atat ti. A dyro i Solomon fy mab galon berffaith, i gadw dy orchmynion, dy dystiolaethau, a’th ddeddfau, ac i’w gwneuthur hwynt oll, ac i adeiladu y llys yr hwn y darperais iddo. Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, Bendithiwch, atolwg, yr ARGLWYDD eich DUW. A’r holl dyrfa a fendithiasant ARGLWYDD DDUW eu tadau, a blygasant eu pennau, ac a ymgrymasant i’r ARGLWYDD, ac i’r brenin.