1 Cronicl 16:7-36
1 Cronicl 16:7-36 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar y diwrnod hwnnw rhoddodd Dafydd i Asaff a’i gyfeillion, y gân hon o ddiolch: Diolchwch i’r ARGLWYDD, a galw ar ei enw! Dwedwch wrth bawb beth mae wedi’i wneud. Canwch iddo, a defnyddio cerddoriaeth i’w foli! Dwedwch am y pethau rhyfeddol mae’n eu gwneud. Broliwch ei enw sanctaidd! Boed i bawb sy’n ceisio’r ARGLWYDD ddathlu. Dewch at yr ARGLWYDD, profwch ei nerth; ceisiwch ei gwmni bob amser. Cofiwch y pethau rhyfeddol a wnaeth – ei wyrthiau, a’r cwbl mae wedi ei ddyfarnu! Ie, chi blant ei was Israel; plant Jacob mae wedi’u dewis. Yr ARGLWYDD ein Duw ni ydy e; yr un sy’n barnu’r ddaear gyfan. Cofiwch ei ymrwymiad bob amser, a’i addewid am fil o genedlaethau – yr ymrwymiad wnaeth e i Abraham, a’r addewid wnaeth e ar lw i Isaac. Yna ei gadarnhau yn rheol i Jacob – ymrwymiad i Israel oedd i bara am byth! “Dw i’n rhoi gwlad Canaan i chi” meddai, “yn etifeddiaeth i chi ei meddiannu.” Dim ond criw bach ohonoch chi oedd – rhyw lond dwrn yn byw yno dros dro, ac yn crwydro o un wlad i’r llall, ac o un deyrnas i’r llall. Wnaeth e ddim gadael i neb eu gormesu nhw; roedd wedi rhybuddio brenhinoedd amdanyn nhw: “Peidiwch cyffwrdd fy mhobl sbesial i; peidiwch gwneud niwed i’m proffwydi.” Y ddaear gyfan, canwch i’r ARGLWYDD! a dweud bob dydd sut mae e’n achub. Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e; wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae’n eu gwneud. Mae’r ARGLWYDD yn Dduw mawr, ac yn haeddu ei foli! Mae’n haeddu ei barchu fwy na’r ‘duwiau’ eraill i gyd. Eilunod diwerth ydy duwiau’r holl bobloedd, ond yr ARGLWYDD wnaeth greu’r nefoedd! Mae ei ysblander a’i urddas yn amlwg; mae cryfder a llawenydd yn ei bresenoldeb. Dewch bobl y cenhedloedd! Cyhoeddwch! Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy’r ARGLWYDD! Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da! Dewch o’i flaen i gyflwyno rhodd iddo! Plygwch i addoli’r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr! Crynwch o’i flaen, bawb drwy’r byd! Mae’r ddaear yn saff, does dim modd ei symud. Boed i’r nefoedd a’r ddaear ddathlu’n llawen! Dwedwch ymysg y cenhedloedd, “Yr ARGLWYDD sy’n teyrnasu!” Boed i’r môr a phopeth sydd ynddo weiddi! Boed i’r caeau a’u cnydau ddathlu! Bydd holl goed y goedwig yn siffrwd yn llawen o flaen yr ARGLWYDD, am ei fod e’n dod – mae’n dod i roi trefn ar y ddaear! Diolchwch i’r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd. Dwedwch, “Achub ni, O Dduw yr achubwr! Casgla ni ac achub ni o blith y cenhedloedd! Wedyn byddwn ni’n diolch i ti, y Duw sanctaidd, ac yn brolio’r cwbl wyt ti wedi’i wneud.” Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb! A dyma’r bobl i gyd yn dweud, “Amen! Haleliwia!”
1 Cronicl 16:7-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y pryd hwnnw y rhoddodd Dafydd am y tro cyntaf i Asaff a'i frodyr y moliant hwn i'r ARGLWYDD: Diolchwch i'r ARGLWYDD! Galwch ar ei enw, gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd. Canwch iddo, moliannwch ef, dywedwch am ei holl ryfeddodau. Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd, llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD. Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth, ceisiwch ei wyneb bob amser. Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth, ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd, chwi ddisgynyddion Israel, ei was, chwi blant Jacob, ei etholedig. Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw, ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear. Cofiwch ei gyfamod dros byth, gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau, sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham, a'i lw i Isaac, yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel, a dweud, “I chwi y rhoddaf wlad Canaan yn gyfran eich etifeddiaeth.” Pan oeddech yn fychan o rif, yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad, yn crwydro o genedl i genedl, ac o un deyrnas at bobl eraill, ni adawodd i neb eich darostwng, ond ceryddodd frenhinoedd o'ch achos, a dweud, “Peidiwch â chyffwrdd â'm heneiniog, na gwneud niwed i'm proffwydi.” Canwch i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear, cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth. Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd, ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd. Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl; y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau. Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd, ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd. Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen, nerth a llawenydd yn ei fangre ef. Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd, rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth; rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw, dygwch offrwm a dewch o'i flaen. Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd. Crynwch o'i flaen, yr holl ddaear; yn awr y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir. Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear, a dywedent ymhlith y cenhedloedd, “Y mae'r ARGLWYDD yn frenin.” Rhued y môr a'r cyfan sydd ynddo, llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo. Yna bydd prennau'r goedwig yn canu'n llawen o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dod i farnu'r ddaear. Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw, ac y mae ei gariad hyd byth. Dywedwch, “Achub ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth; cynnull ni ac arbed ni o blith y cenhedloedd, inni gael rhoi diolch i'th enw sanctaidd ac ymhyfrydu yn dy fawl.” Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.
1 Cronicl 16:7-36 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y dydd hwnnw y rhoddes Dafydd y salm hon yn gyntaf i foliannu yr ARGLWYDD, yn llaw Asaff a’i frodyr. Moliennwch yr ARGLWYDD, gelwch ar ei enw ef, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd. Cenwch iddo, clodforwch ef, ymadroddwch am ei holl ryfeddodau. Ymlawenychwch yn ei enw sanctaidd ef; ymhyfryded calon y sawl a geisiant yr ARGLWYDD. Ceiswch yr ARGLWYDD a’i nerth ef, ceisiwch ei wyneb ef yn wastadol. Cofiwch ei wyrthiau y rhai a wnaeth efe, ei ryfeddodau, a barnedigaethau ei enau; Chwi had Israel ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion ef. Efe yw yr ARGLWYDD ein DUW ni; ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear. Cofiwch yn dragywydd ei gyfamod; y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau; Yr hwn a gyfamododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac: Ac a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel, Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth. Pan nad oeddech ond ychydig, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi; A phan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, ac o un frenhiniaeth at bobl eraill; Ni adawodd efe i neb eu gorthrymu: ond efe a geryddodd frenhinoedd o’u plegid hwy, gan ddywedyd, Na chyffyrddwch â’m heneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi. Cenwch i’r ARGLWYDD yr holl ddaear: mynegwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef. Adroddwch ei ogoniant ef ymhlith y cenhedloedd; a’i wyrthiau ymhlith yr holl bobloedd. Canys mawr yw yr ARGLWYDD, a chanmoladwy iawn: ofnadwy hefyd yw efe goruwch yr holl dduwiau. Oherwydd holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod; ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd. Gogoniant a harddwch sydd ger ei fron ef: nerth a gorfoledd yn ei fangre ef. Moeswch i’r ARGLWYDD, chwi deuluoedd y bobloedd, moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth. Moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant ei enw: dygwch aberth, a deuwch ger ei fron ef; ymgrymwch i’r ARGLWYDD mewn prydferthwch sancteiddrwydd. Ofnwch rhagddo ef yr holl ddaear: y byd hefyd a sicrheir, fel na syflo. Ymlawenyched y nefoedd, ac ymhyfryded y ddaear; a dywedant ymhlith y cenhedloedd, Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu. Rhued y môr a’i gyflawnder; llawenhaed y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo. Yna prennau y coed a ganant o flaen yr ARGLWYDD, am ei fod yn dyfod i farnu y ddaear. Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. A dywedwch, Achub ni, O DDUW ein hiachawdwriaeth, casgl ni hefyd, a gwared ni oddi wrth y cenhedloedd, i foliannu dy enw sanctaidd di, ac i ymogoneddu yn dy foliant. Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A dywedodd yr holl bobl, Amen, gan foliannu yr ARGLWYDD.