1 Cronicl 16:23-31
1 Cronicl 16:23-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y ddaear gyfan, canwch i’r ARGLWYDD! a dweud bob dydd sut mae e’n achub. Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e; wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae’n eu gwneud. Mae’r ARGLWYDD yn Dduw mawr, ac yn haeddu ei foli! Mae’n haeddu ei barchu fwy na’r ‘duwiau’ eraill i gyd. Eilunod diwerth ydy duwiau’r holl bobloedd, ond yr ARGLWYDD wnaeth greu’r nefoedd! Mae ei ysblander a’i urddas yn amlwg; mae cryfder a llawenydd yn ei bresenoldeb. Dewch bobl y cenhedloedd! Cyhoeddwch! Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy’r ARGLWYDD! Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da! Dewch o’i flaen i gyflwyno rhodd iddo! Plygwch i addoli’r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr! Crynwch o’i flaen, bawb drwy’r byd! Mae’r ddaear yn saff, does dim modd ei symud. Boed i’r nefoedd a’r ddaear ddathlu’n llawen! Dwedwch ymysg y cenhedloedd, “Yr ARGLWYDD sy’n teyrnasu!”
1 Cronicl 16:23-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Canwch i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear, cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth. Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd, ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd. Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl; y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau. Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd, ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd. Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen, nerth a llawenydd yn ei fangre ef. Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd, rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth; rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw, dygwch offrwm a dewch o'i flaen. Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd. Crynwch o'i flaen, yr holl ddaear; yn awr y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir. Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear, a dywedent ymhlith y cenhedloedd, “Y mae'r ARGLWYDD yn frenin.”
1 Cronicl 16:23-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cenwch i’r ARGLWYDD yr holl ddaear: mynegwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef. Adroddwch ei ogoniant ef ymhlith y cenhedloedd; a’i wyrthiau ymhlith yr holl bobloedd. Canys mawr yw yr ARGLWYDD, a chanmoladwy iawn: ofnadwy hefyd yw efe goruwch yr holl dduwiau. Oherwydd holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod; ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd. Gogoniant a harddwch sydd ger ei fron ef: nerth a gorfoledd yn ei fangre ef. Moeswch i’r ARGLWYDD, chwi deuluoedd y bobloedd, moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth. Moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant ei enw: dygwch aberth, a deuwch ger ei fron ef; ymgrymwch i’r ARGLWYDD mewn prydferthwch sancteiddrwydd. Ofnwch rhagddo ef yr holl ddaear: y byd hefyd a sicrheir, fel na syflo. Ymlawenyched y nefoedd, ac ymhyfryded y ddaear; a dywedant ymhlith y cenhedloedd, Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu.