Psalmau 67
67
Y Psalm. LXVII. Hen Ofer‐fesur, a elwir ‘Trybedd Menaich.’
1O Dduw mawr, madheu imi,
Duw, agwrdh bendigi;
Duw, parawd y peri,
Dy wyneb tywyni
Atton ni, di wyt ein Naf.
2-3Pobloedh miloedh molant,
Eilwaith Duw adholant
A mawlair moliant;
Cenhedloedh cain odlant
O drachwant, Duw Iôr uchaf.
4Diau oll bobl daear
Yn llawen gwên ’ rhai gwar;
Cyfion farn, cefnai far,
A llywodraeth, gaeth gar,
Digyfar, Duw a gofiaf.
5Pobloedh miloedh molant,
Eilwaith Duw adholant
A mawlair moliant;
Cenhedloedh cain odlant
O drachwant, Duw Iôr uchaf.
6Daear rhoes, pumoes pêr,
Dawnus, ei ffrwyth tyner;
Duw ydwyd, dyweder,
Dy fendith, dy fwynder,
Dyro ein Nêr, Duw, Iôr, Naf.
7Dod, f’Unduw, dod fendith,
Dad, ein plaid, dod i ’n plith;
Dwfn a chair d’ofni chwith,
Daw ar holl daear rith
Di chwith, — hwy gar Duw uchaf.
Dewis Presennol:
Psalmau 67: SC1595
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.