Psalmau 65
65
Y Psalm. LXV. Ofer‐fesur, a elwir ‘Englyn Garhir.’
1Yn Seion dirion bob dydh, — gwiw osteg,
Ag ystyr it’ a fydh;
Bu yno dy fawl beunydh:
Itti ’n Seion
Pawb sy ’n fodhlon, —
Adhewidion rhwydhion, rhydh.
2Mawredh drugaredh drwy gariad — gwedi
Sydh gyd a thi ’n wastad,
A gwedhi pawb a’i gwydhiad;
Pob dyn yno
’N cael ei wrando;
O Duw etto, daw attad.
3Anwiredh rhyfedh rhwyfaf, — o gofion,
A gafodh graff arnaf;
Unduw cu, gennyd y caf,
O’m pechodau,
A’m camwedhau,
Ddiwair madhau, Iôr medhaf.
4Dedwydh fydh beunydh heb wad, — o wiwserch,
A dhewisych attad;
I’th lŷs fo erys fwriad:
Fo gaiff dhigon
A’i gwna ’n fodhlon,
O’th dŷ tirion, rhodhion rhad.
5Hefyd Duw ’n iechyd yn wir, — attebion
Cyfion, geirwon, gyrrir;
Duw ydwyd, hynny d’wedir,
Gobaith ffydhlon
Pawb ar eigion,
Ac eithafion dirion dir.
6O’th wyrthiau borau yn berwi, — dan wyrth,
Mae dy nerth yn codi;
Pob ciwdawd oll, pawb, cedwi;
A phob trefydh,
Môr, a mynydh,
A gwellt, a gwŷdh, rhydh fy Rhi.
7Dygyfor y môr uwch marian, — difai
Duw a’i dofa ’n fuan,
A syniaw ffrydau sy anian:
Rhwystro ’r bydoedh,
Rhwysg cenhedloedh,
A’u terfysgoedh gyhoedh gan.
8Peri d’ofni, Duw Dad, — byr solas,
Gan breswylwyr pob‐gwlad,
O’th arwydhion, maith rodhiad:
Yn llawenhau
Nos a borau,
Mwyna’ oedau, mynediad.
9Dyfraist dhaear war, wiredh, — ymwelaist
A llenwaist a llawnedh,
Yn llon, a’th afon, i’th wedh:
Ydau cedwi,
Ac aedhfedi,
Un Duw Celi, deg haeledh.
10Cwysau gwar ag ar a geri, — daear
O ’r diwedh a wlychi, —
Cawodau tawdh yn hawdh hi:
Egin gleisiawn,
Blodau, a grawn,
Ini (digawn) bendigi.
11A’th haelder, Croywner, coroni — ’r flwydhyn,
Oedh fawl adhas itti;
Golud i’th ffyrdh golau di:
12Gwylltoedh gwaenydh,
Môr, a mynydh,
A llawenydh eu llenwi.
13Beunydh ir meusydh defaid man — oll ini
Sy ’n llenwi pob cordhlan;
Digonedh ŷd, — gwỳnbryd gan:
Pob peth llefant —
Pawb a ganant
Dy ogoniant, deg anian!
Dewis Presennol:
Psalmau 65: SC1595
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.