Psalmau 62
62
Y Psalm. LXII. Englyn Proest Cadwynodl.
1Ymdhiriaid f’enaid fwynwaith
Ynod, Arglwydh rhwydh, yr aeth;
Gan Dduw y cair, mwynair maith,
Uchod Iôr, iechydwriaeth.
2Hefyd fy iechyd heb far
Ydyw, a’m nerth, dyma ’n wir;
A’m dyrchafiad, godiad gwar,
Ys madws, ni’m symmudir.
3Pa hyd y gweithiwch drwch dro,
Ail gelyn i’m herbyn i?
Ail magwyr a f’ai ’n gŵyro,
A’m lladh hwnt, on’d brwnt y bri?
4Rhwystrant, Naf, na’m dyrchafer,
A gwaeledh‐gamp gelwydhgar:
Melldith sydh yw c’lonnau, mallder; —
Têg eiriau yw genau gwar.
5Ymdhiriaid f’enaid fwynwaith
Ynod, Arglwydh rhwydh, yr aeth;
Gan Dduw y cair, mwynair maith,
Uchod Iôr, iechydwriaeth.
6Hefyd fy iechyd heb far,
Ydyw, a’m nerth, dyma ’n wir;
A’m dyrchafiad, godiad gwar,
Ys madws, ni’m symmudir.
7Duw ucho ydwyd iechyd,
A’m gogoniant rhwydhiant rhêd;
A’m craig wèn, a’m crug ennyd,
A’m Iôn adhysg, a’m nodhed.
8I Dduw rad ymdhiriedwch
Bawb, bob amser, cryfder crych,
Hoff isod; a chyffeswch,
Duw yw ’n nodhed, dynged wych.
9Plant dynion ffeilsion eu ffydh
A fwriwyd mewn oferedh;
I ’r clorian bychan y bydh
Yn goeg, ysgafna’ gwagedh.
10Nag ymdhiriad, gredadyn,
I dreisiaw, rheibiaw, be rhon’;
O daw golud, dig eulyn,
Na’d i gael yn dy galon.
11Duw, dywawd yn barawd, bêr,
Mwy nag unwaith, affaith ir,
Mai eidho braf Naf, fy Nêr,
Duw, yw nerth, fal dyna wir.
12Gennyt, Arglwydh rhwydh, yn rhad,
Trugaredh rhyfedh y rhêd;
I bawb y teli heb wad,
Athro, ar ol ei weithred.
Dewis Presennol:
Psalmau 62: SC1595
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.