Psalmau 59
59
Y Psalm. LIX. Englyn Unodl Union.
1Iacha fi, Celi, coelwaith, — rhag caswyr
A f’ai ’n ceisio f’anrhaith;
A gwared fi, gywirwaith,
Rhag gelyn i’m herbyn maith.
2Rhag creulon dhynion, medhiannol — wythryw,
O weithred annuwiol,
Gwared fi; mae ’n anguriol
Gwaith y dynion ffeilsion ffol.
3Brad caid i’m henaid, mwy ynni — ganwaith,
Ymgynnull arglwydhi;
Dim trais hyll ni weithiais i,
Draw o gwn, na drygioni.
4Cydunant, rhedant yn rhod, — annoethweilch,
Ni wnaethym fai hynod;
Deffro, edrych, nych yw ’r nôd,
Fawrfost, sydh i’m cyfarfod.
5Duw haelwych, llewych y lluoedh, — wiwffrwyth,
Deffro, barn genhedloedh:
Ac na fadhau, gau ar g’oedh,
Drais o’th rad draws weithredoedh.
6E fydh bob echwydh ochain — a dadwrdh
Dadredeg y plygain;
Amgylch y dref yn llefain,
Cwn yw rhyw (y cawn) y rhai ’n.
7Llafnau o’u genau gwanant — ar undydh;
Pwy a wrendy? medhant:
Y bugad siarad sorriant,
A gair mawr o gẁr eu mant.
8Er eu twrdh dadwrdh dioedi, — poenus,
Am eu pennau chwerdhi;
Yr holl genhedloedh, Dduw Rhi,
Yn eu tir a watwori.
9Pob rhyw nerth rhwydhwerth a rodhwyd, — ein Tad,
Gennyt ti derbyniwyd:
Arnat gwiliaf, Naf in’ wyd,
I ’n tir wedi, ’n tŵr ydwyd.
10Duw ’n Tad, o gariad, rhag gwg — y cedyrn,
Duw a ’n ceidw rhag cilwg:
Duw a ran draw dyrnau drwg
Fy ngelyn yn fy ngolwg.
11Na ladh hwy, gwir, ’r wy’ gywir rôl, — O Duw,
Am na’s deall lledffol;
I gysgod twyn cynhwynol,
Tarian o’th wyrth, tro nhwy’th ol.
12Parablau eu genau a gair — yw buchedh
O bechod anniwair;
I’w balchedh, unwedh anair,
Melldith a geurith a gair.
13Difa, lladh yna, annel, — na bydhant;
Gwybydhed pob dirgel,
Duw a reola ’n dawel
Iacob ar dhaear lle dhêl.
14E fydh bob echwydh ochain — a dadwrdh
Dadredeg y plygain;
Amgylch y dref yn llefain,
Cwn yw rhyw (y cawn) y rhai ’n.
15Fe’u gwelwyd heb fwyd yn faith, — cur oedran,
Yn crwydro drwy arwdaith;
Er eu newyn oer, naw‐waith,
Yspïant, gwiliant fi yw gwaith.
16Itti Naf canaf, cwynwr, — a llawn wyrth,
Fy holl nerth a’m cyflwr;
Molaf Dduw, yw fy milwr
Mewn ymwan, tarian, a’m tŵr.
17Fy nghadernid bid bob adeg — hynod,
Canaf hyn ar osteg;
Duw yw ’mharch, gyfarch gyfeg,
Duw fy nodhed, tynged teg.
Dewis Presennol:
Psalmau 59: SC1595
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.