Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 54

54
Y Psalm. LIV. Cywydd Deuair Hirion.
1Duw union, er mwyn d’enwi,
Ucho bu fai, achub fi;
A dïal llawn ofal llid
A dewrnerth a chadernid.
2Duw, gwrando, mawr wylo mau
A dhywed fy ngwedhïau;
Ac erglyw hedhyw hoywdhir
O’m genau y geiriau gwir.
3Dïeithred afrifed fri
A gaed i’m herbyn gwedi;
Y rhai ofnus, rus heb raid,
Cas a fyn ceisio f’enaid,
Rhai nid edrych, llewych llwyd,
Ddiweirglod, ar Dduw Arglwydh.
4Duw yw ’mhorth a’m cynnorthwy
I’m hoes, nid rhaid imi mwy:
Y gwir Arglwydh rhwydh a’m rhoes,
Gwedi a fyn gadw f’einioes.
5I’m gelynion, am g’lennig,
Ef a dal a dïal dig:
O’th wirionedh, ryfedh Ri,
Difethiant, eu difethi.
6Offryma’ it’ offrwm war,
A llai esgus, ’n ’w’llysgar:
Canaf i d’enw cu, iawnwych;
Can’s da ydiw, gwiw, a gwych.
7Ti, yn wir, a ’n tynni ni
O gul adwyth galedi:
Gwyl fy llyga’d, rhad pe rhon’,
Gelanedh o’m gelynion.

Dewis Presennol:

Psalmau 54: SC1595

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda