Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 53

53
Y Psalm. LIII. Oferfesur; ‘Englyn Cildwrn’ ei gelwir.
1Ynfyd gŵyr dh’wedyd anfoes — yw galon,
Ni ŵyr gelu drygfoes,
Duw nid oes.
Pa son am dhynion a dhiwynwyd, — dinerth,
Daioni ni’s gwnaethpwyd?
Pawb lygrwyd.
2O ’r nefoedh Duw oedh, da Iôn, — diesgus,
Yn disgwyl gweithredion
Plant dynion.
Oes dyn a’i hedwyn a hyder — mawredh,
Trwy ymoralw bob amser,
Duw ein Nêr?
3I ffordh front troisont trawsi, — annoeth iawn,
Ni wnaeth un yleni
Ddaioni.
4Anghall, didheall adhawer, — er hyn,
Ydyw ’r rhai ’n bob amser,
Ysgeler.
Bwytta fal bara bawb oedh, — yn alaeth,
Ni alwant Dduw nefoedh,
O’m pobloedh.
5Ofnant, dychrynant dechreunos, — dyfnach,
Daw ofni dhiwedhnos,
Heb achos.
O’i far e wasgar esgyrn, — i’th erbyn,
Faith oerbwngc rhyfelchwyrn,
Y cedyrn.
Yn dostur, Duw pur, peri — eu gwneuthur
Gwn waeth‐waeth galedi,
C’wilydhi.
6Pwy o Seion, hon sydh wlad hael — uchod,
A rydh iechyd diwael
I ’r Israel.
Pan dynni, Geli, argoelion — gorchest
O garchar gelynion
Dy dhynion.
Llawenydh a fydh o fael — oll yno,
Llawenach Iago hael
A ’r Israel.

Dewis Presennol:

Psalmau 53: SC1595

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda