Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 41

41
Y Psalm. XLI. Englyn Toddaid; gellir ei ganu a ’r Dôn Ffrengig sy ir unrhyw Psalm.
1Gwyn ei fyd i gyd yn gall — a farno
Furniad truan anghall:
Mewn dydh o g’wilydh a gwall, — yn gywraint,
Fe’i gweryd Duw ’n dhiball.
2Duw nef a’i ceidw ef, wiwfyd — rhwydh, adhas,
Rhydh idho hir fywyd
Ar y dhaear far, fwy wryd, — gwelwch;
Gelyn ni chaiff wỳnfyd.
3Dyfal Duw a’i cynnal dau cannawr, — eilwaith
I’w wely dolurfawr:
Hefyd y clefyd clwyfawr, — trwy nychu,
Try yn iechyd gwerthfawr.
4Duw o bwyll, didwyll y d’wedais, — draw gyr
Drugaredh ’ ofynais:
Gwna fi ’n iach, bellach mi a bwyllais, — Eurbor,
Yn d’erbyn y pechais.
5Edrych goel anwych gelynion — rhygas,
I’m rhegu a’u melldithion;
Pa dhydh y derfydh, a garwdon, — dirfawr?
Y derfydh ei gofion?
6I’m gweled heb gêd pe do’i gant, — coel eidhil,
Celwydhau a dh’wedant;
Anwiredh fawredh fyfyriant — ollawl,
Ag allan y traethant.
7Fy nghas oer, diras, arw aderyn, — eisoes
Sy ’n sisial i’m herbyn:
Pob drwg o gilwg a gwŷn — i minnau
Ddymunant i’m ca’lyn.
8Mae ’nglŷn i’m ca’lyn cywilydh, — medhant,
Mewn modhion anghelfydh;
Ni chyfyd ir byd, mwy ni bydh — rhwydh hynt,
Pan orwedho ’n efrydh.
9Carwn y gwr hwn, rhennais, — a wydhwn
Idho ’r ymdhiriedais;
Fe wingodh o’i fodh, gwae f’ais, — i’m herbyn,
Mawrborth idho a rennais.
10Duw Tri, ti’m codi, cydwedh, — Rhi uniawn,
Rhenni im’ drugaredh;
Eu geiriau, minnau o’m annedh — a dal
A dïal o ’r diwedh.
11Oedhwn felly, gwn, gennyd, — mawr ydoedh,
Gymmeradwy hefyd;
Llawenydh ni bydh o ’r byd, — i’m gelyn,
Y gwaelwas anhyfryd.
12Cynheliaist, deliaist, da wedh, — i’m cedwaist,
Ti’m peraist, i’m puredh;
Gosodi, mynni im’ annedh — yn d’ŵydh,
Didhan byth yw ’ngorsedh.
13Bendiger ein Nêr, Iôn hael, — o gariad,
Dewisrad Duw Israel:
Amen ac Amen a mael — y gwedhai,
Tragwydhawl yw ’r afael.

Dewis Presennol:

Psalmau 41: SC1595

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda