Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 39

39
Y Psalm. XXXIX. Englyn Unodl Union.
1D’wedais, Naf, Gwiliaf goelwawd, — oll ebrwydh,
Fy llwybrau hyd dhydhbrawd,
Rhag im’ bechu i’m cnu cnawd,
Ammod hyfedr, a’m tafawd.
Cadwa ’n frau ’r genau, er gwg, — hoff rinwedh,
Wedi ’i ffrwyno ’n amlwg,
Tra fo ’r enwir, dihir, (dwg
Im’ gywilydh) i’m golwg.
2Tewais, ni’s d’wedais, naws da, — o goelwaith,
A gelair rhag traha;
A’m tristyd, o’i blegyd bla,
Ag yn hawdh, a gynnydha.
3A’m calon union gan wyniaw — o dhig
Sydh oll wedi ’ thwymnaw;
Ennynodh tan, d ’rogan draw,
O fawredh fy myfyriaw.
4D’wedais, Arglwydh, rwydh radhau, — a’m tafod,
Mae tyfiant i minnau,
Gad im’ wybod, breisgnod brau,
Iawnwiw, fy niwedh innau.
5Beth yw hyd, ennyd anaf, — anwedhus,
Fy nydhiau a fedhaf?
Fel gwypwyf hefyd hyd haf,
O ba’i fodh, byw a fydhaf.
Fal lled llaw yw draw, Duw dri, — aneidhil,
Fy nydhiau, o rhifi;
Beth yw f’oedran, gwan gyni,
Aruth wyt Iôr, wrthyt ti?
6Nid yw gwr yn siwr ond sorod, — fawrair,
Ag oferedh hynod:
Pawb a rodia ’n waetha’ nôd,
O cai esgus, mewn cysgod.
Casgl ef dha yna, anwr, — o drafferth,
Drwy offis, fal occrwr:
Ag ni ŵyr y gwan oerwr
Pwy a’i medha, gwaela’ gwr.
7Beth, bellach, anach awenydh, — diriaid,
A dariaf fi beunydh;
A’m gobaith, mi a’i gwybydh,
Unduw sad, ynod y sydh.
8Gwared fi, Geli gowlaid, — wych ydwyt,
Rhag pechodau f’enaid;
Na wna fi, fy Rhi, mae ’n rhaid,
Iôr ffel, ’n dhirmyg ir ffyliaid.
9Ac yn fud, o hud nôd hawdh, — o bossibl
Buaswn, nid anhawdh;
Wedi cau ’r genau drwy gawdh,
Duw pur dydi a’i parawdh.
10Tyn dy bla, brysia, bu ran, — waedh erthwch,
Odhiwrthyf yn fuan;
Treuliais, o antur wiwlan,
Trwy d’arfod gernod nid gwan.
11Pan gerydhi, Rhi, fy Iôr hael, — wanwr
Am anwiredh drafael;
Treulia dyn fal gwyfyn gwael,
Gwagofaint yw goeg afael.
12Gwrando, clyw, erglyw irglau — ing waedhiad
Fy ngwedhi a’m dagrau:
Dïeithr wyf fry ir tŷ tau,
Iôn hoywdeg, fal fy nhadau.
13Dal dy ofid, lid diwael, wyf — fwyn wyrth,
Fy nerth oni chaffwyf,
Cyn im’ fyned, nodhed nwyf
Obeithiawl, ac na bythwyf.

Dewis Presennol:

Psalmau 39: SC1595

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda