Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 33

33
Y Psalm. XXXIII. Cywydd Deuair Hirion.
1Bydhwch awen lawen lwydh,
Nêr eurglod, yn yr Arglwydh;
A ’r gwyr union, gyfion gel,
Diolchwch i’m Duw eilchwel;
Da gwedhai yn deg adhwyn
I gyfion fyth gofio ’n fwyn.
2A mawl ir Arglwydh fe’i myn,
Ydolwg, ar y delyn;
Ar y reiol feiol fer,
A degtant liwt, rhag digter.
3Cenwch idho eich caniad,
Can o newydh a rydh rad;
Can yn uchel, gwel mai gwych,
Cu siriol, gan cysurwych.
4Gair Duw y sydh, dedwydh dôn,
O wir annerch, air union;
A’i holl weithredoedh a’i hynt,
O’u nodi, cyflawn ydynt.
5Fe gar Nêr gyfiawnder faeth,
Yn deg, a barnedigaeth;
Llawn yw ’r dhaear hygar hi,
Dduw union, o’i dhaioni.
6Drwy ei air, draw a eurer,
Y nef a wnaeth ein Naf, Nêr;
A’i holl luoedh, gyhoedh gau,
A’i anadl teg o’i enau.
7Cyd‐dyrrodh accw hyd deirawr
Y dyfroedh a ’r moroedh mawr;
A ’r dyfnedh, ryfedh wir Iôr,
Drwy ei osod yn drysor.
8Ofned holl dhaear aren
Yr Arglwydh mawrlwydh — Amen;
Pawb ir byd oll pybyr byw,
Ond hawdh, a’i hofnant hedhyw.
9A dhywad heb wad yn bur,
Weithian mae wedi ’ wneuthur;
Gorch’mynawdh goruwch maenawr
Iôr llên, a safodh ir llawr.
10Cyngor a chwedl y cenhedloedh
A dyr Duw, er dewred oedh;
Amcanion dynion nid da,
Ef weithian a’u difetha.
11Cyngor yr Hoywior, a’i hawl
Gwedhus, a sai ’n dragwydhawl;
A’i fedhwl yn dhifadhau
A bery byth, obru, heb au.
12Gwỳnfydedig, brig eu bro
Heinydh, yw ’r nasiwn honno,
Os Duw y rhai ’n, o ’stôr rhwydh,
Drwy erglyw, ydyw ’r Arglwydh;
Sawl a dhewis, a ffris ffraeth,
At fedhwl o etifedhiaeth.
13O nef yr Arglwydh yn wych,
Wiwdrefn, ir llawr a edrych;
Ac edrych yn symlwych son,
Ond hynod, ar blant dynion.
14O’i drigle Duw rywioglais,
Edrych a gwyl, dewrwych gais,
Ar bawb a drig, gynnig gwar,
Iraidh yw, ar y dhaear.
15E a lunia galonnau,
Hyn a gaed i hŷn ag iau;
Ag a dheall, gwedhïwn,
Oll o’u gwaith, felly y gwn.
16Ni chedwir brenhin, rîn ri,
O fawredh llu nifeiri;
Na gwared ’n awr y cawr cu
Drwy fawrnerth, diwair farnu.
17Nid yw march o’i barch a’i borth,
Goeg gymmell, ond gwag gymmorth;
Ag ni weryd gan oerwerth,
O’i fawr nwyf, ofer ei nerth.
18Golwg Duw sydh yn gwilio
Hwn o’i fewn a’i hofnai fo;
A ’r sawl a ymdhiried, gwrs hedh,
Dro gwirion, yw drugaredh.
19A gweryd draw, fe gerir,
Rhag angau eu heneidiau ’n wir;
A’u cadw fyth, eu cêd a fyn,
O gŵyn awydh, rhag newyn.
20Taria ein enaid tirion
Yn yr Arglwydh, wiwlwydh Iôn;
Anturiol ef yw ’n tarian
A ’n cymmorth, gloyw ymborth glan.
21Can’s yndho, pan syrthio son,
Coeliwch, llawen yw ’n calon;
Ein hyder, trymder ni’s traidh,
Seintwar, fydh yw enw santaidh.
22Bid dy drugaredh fedhiant
Arnom, Arglwydh, o’th swydh, Sant;
Megis ynod, hoywnod hon,
Dwys, yr ymdhiriedason’.

Dewis Presennol:

Psalmau 33: SC1595

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda