Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 24

24
Y Psalm. XXIV. Cyhydedd Wyth Ban.
1Duw piau ’r dhaear dan warant,
Oll unwedh, gyda’i lluniant;
Y byd, pawb ennyd, pob anant,
Is heulwen yndho a breswyliant.
2Rhoes ei sylfain, main a mwyniant,
Ar y dwfr, Iôr; sugnfor, Sant;
Astud fodhau, gwastad fydhant.
3Pwy i’th fynydh a rydh rwydhiant? —
O dhiwair engil a dhringant?
I’w le sanctaidh, pwy a feidhiant,
O naws hyfedr, yno a safant?
4Y gwirion dhwylaw a garant,
A chalon sydh làn, o chwiliant;
Nad ydyw walch, goegfalch gwagfant,
Nag am lwf o dwyll crybwyllant.
5Bendithion dhigon a dhygant,
A chyfiawnder gan Nêr, a gant,
Eu hiechyd, genedl ymchwedlant.
6Fywiog eisoes ef a geisiant,
A’i wyneb goseb a gawsant,
O gwbl oll, sef Iago a’i blant.
7Codwch a dyrchefwch drwy chwant
Eich pennau a gwyrth, pyrth porthiant;
Codwch a dyrchefwch drwy chwant,
A drysau ’r byd a gyd‐godant;
Entried Brenhin gwin gogoniant.
8Pwy yw Brenhin gwin gogoniant?
Duw nerthawg, alluawg llywiant,
Uchel mewn rhyfel ei rhifant.
9Codwch a dyrchefwch drwy chwant
Eich penau a gwyrth, pyrth porthiant;
Codwch a dyrchefwch drwy chwant,
A drysau ’r byd a gyd‐godant;
Entried Brenhin gwin gogoniant.
10Pwy yw Brenhin gwin gogoniant?
Duw lluoedh, rhyfeloedh foliant,
Ef yw Brenhin gwin gogoniant.

Dewis Presennol:

Psalmau 24: SC1595

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda