Oracl. Gair yr ARGLWYDD yn nhir Hadrach
ac yn Namascus, ei orffwysfa.
Yn wir, eiddo'r ARGLWYDD yw dinasoedd Aram,
fel holl lwythau Israel;
hefyd Hamath, sy'n terfynu arni,
a Tyrus a Sidon, er eu bod yn ddoeth iawn.
Cododd Tyrus dŵr iddi ei hun;
pentyrrodd arian fel llwch,
ac aur fel llaid heol.
Ond wele, y mae'r ARGLWYDD yn cymryd ei heiddo
ac yn difetha ei grym ar y môr;
ac ysir hithau yn y tân.
Bydd Ascalon yn gweld ac yn ofni,
Gasa hefyd, a bydd yn gwingo gan ofid,
ac Ecron, oherwydd drysir ei gobaith;
derfydd am frenin yn Gasa,
a bydd Ascalon heb drigolion;
pobl gymysgryw fydd yn trigo yn Asdod,
a thorraf ymaith falchder y Philistiad.
Tynnaf ymaith ei waed o'i enau,
a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd;
bydd yntau'n weddill i'n Duw ni,
ac fel tylwyth yn Jwda;
a bydd Ecron fel y Jebusiaid.
Yna gwersyllaf i wylio fy nhŷ,
fel na chaiff neb fynd i mewn nac allan.
Ni ddaw gorthrymydd atynt mwyach,
oherwydd yr wyf yn gwylio'n awr â'm llygaid fy hun.
“Llawenha'n fawr, ferch Seion;
bloeddia'n uchel, ferch Jerwsalem.
Wele dy frenin yn dod atat
â buddugoliaeth a gwaredigaeth,
yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn,
ar ebol, llwdn asen.
Tyr ymaith y cerbyd o Effraim
a'r meirch o Jerwsalem;
a thorrir ymaith y bwa rhyfel.
Bydd yn siarad heddwch â'r cenhedloedd;
bydd ei lywodraeth o fôr i fôr,
o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.
“Amdanat ti, oherwydd gwaed y cyfamod rhyngom,
gollyngaf dy garcharorion yn rhydd o'r pydew di-ddŵr.
Dychwelwch i'ch amddiffynfa, chwi garcharorion hyderus;
heddiw yr wyf yn cyhoeddi i chwi adferiad dauddyblyg.
Yr wyf wedi plygu fy mwa, Jwda,
ac wedi gosod fy saeth ynddo, Effraim;
codaf dy feibion, Seion,
yn erbyn meibion Groeg,
a gwnaf di yn gleddyf rhyfelwr.”
Bydd yr ARGLWYDD yn ymddangos uwch eu pennau,
a'i saeth yn fflachio fel mellten;
Bydd yr Arglwydd DDUW yn rhoi bloedd â'r utgorn
ac yn mynd allan yng nghorwyntoedd y de.
Bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn amddiffyn iddynt;
llwyddant, sathrant y cerrig tafl,
byddant yn derfysglyd feddw fel gan win,
wedi eu trochi fel cyrn allor.
Y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn eu gwaredu;
bydd ei bobl fel praidd,
fel gemau coron yn disgleirio dros ei dir.
Mor dda ac mor brydferth fydd!
Bydd ŷd yn nerth i'r llanciau,
a gwin i'r morynion.