Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sechareia 9:1-17

Sechareia 9:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Y neges roddodd yr ARGLWYDD am ardal Chadrach, yn arbennig tref Damascus. (Mae llygad yr ARGLWYDD ar y ddynoliaeth fel mae ar lwythau Israel i gyd.) Ac am Chamath, sy’n ffinio gyda Damascus, a Tyrus a Sidon hefyd, sy’n meddwl ei bod mor glyfar. Mae Tyrus wedi gwneud ei hun mor gryf ac mor gyfoethog – mae wedi pentyrru arian fel pridd, ac aur fel baw ar y strydoedd! Ond bydd y Meistr yn cymryd y cwbl, ac yn suddo ei llongau yn y môr. Bydd tref Tyrus yn cael ei llosgi’n ulw! Bydd Ashcelon yn gweld hyn ac yn dychryn. Bydd Gasa yn gwingo mewn ofn; ac Ecron hefyd wedi anobeithio’n llwyr. Bydd brenin Gasa yn cael ei ladd, a fydd neb ar ôl yn Ashcelon. A bydd pobl o dras gymysg yn setlo yn Ashdod. Dw i’n mynd i dorri crib y Philistiaid! Yna wnân nhw byth eto fwyta dim gyda gwaed ynddo, na chig wedi’i aberthu i eilun-dduwiau. Bydd y rhai sydd ar ôl yn Philistia yn dod i gredu yn ein Duw – byddan nhw fel un o deuluoedd Jwda. A bydd pobl Ecron fel y Jebwsiaid. Bydda i’n gwersylla o gwmpas y deml, i’w hamddiffyn rhag y byddinoedd sy’n mynd a dod. Fydd neb yn ymosod ar fy mhobl i’w gormesu nhw byth eto. Dw i fy hun yn gofalu amdanyn nhw. Dathlwch bobl Seion! Gwaeddwch yn llawen, bobl Jerwsalem! Edrych! Mae dy frenin yn dod. Mae e’n gyfiawn ac yn achub; Mae’n addfwyn ac yn marchogaeth ar asyn, ie, ar ebol asen. Bydda i’n symud y cerbydau rhyfel o Israel, a mynd â’r ceffylau rhyfel i ffwrdd o Jerwsalem. Bydd arfau rhyfel yn cael eu dinistrio! Yna bydd y brenin yn cyhoeddi heddwch i’r gwledydd. Bydd yn teyrnasu o fôr i fôr, ac o afon Ewffrates i ben draw’r byd! Yna chi, fy mhobl – oherwydd yr ymrwymiad rhyngon ni, wedi’i selio â gwaed – dw i’n mynd i ryddhau eich carcharorion o’r pydew oedd heb ddŵr ynddo. Dewch adre i’r gaer ddiogel, chi garcharorion – mae gobaith! Dw i’n cyhoeddi heddiw eich bod i gael popeth gollwyd yn ôl – dwywaith cymaint! Jwda ydy’r bwa dw i’n ei blygu, ac Israel ydy’r saeth. Bydda i’n codi dy bobl di, Seion, yn erbyn gwlad Groeg. Bydd Seion fel cleddyf rhyfelwr yn fy llaw. Yna bydd yr ARGLWYDD i’w weld uwchben ei bobl, a’i saeth yn tanio fel mellten. Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn chwythu’r corn hwrdd, ac yn ymosod fel gwynt stormus o’r de. Bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn amddiffyn ei bobl. Byddan nhw’n concro’r gelyn gyda ffyn tafl, ac yn gwledda a dathlu fel meddwon. Bydd fel y gwaed o bowlen yr aberth yn cael ei sblasio ar gyrn yr allor. Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn eu hachub, am mai nhw ydy praidd ei bobl. Byddan nhw’n disgleirio ar ei dir fel cerrig gwerthfawr mewn coron – Mor werthfawr! Mor hardd! Bydd ŷd a sudd grawnwin yn gwneud y dynion a’r merched ifanc yn gryf.

Sechareia 9:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Oracl. Gair yr ARGLWYDD yn nhir Hadrach ac yn Namascus, ei orffwysfa. Yn wir, eiddo'r ARGLWYDD yw dinasoedd Aram, fel holl lwythau Israel; hefyd Hamath, sy'n terfynu arni, a Tyrus a Sidon, er eu bod yn ddoeth iawn. Cododd Tyrus dŵr iddi ei hun; pentyrrodd arian fel llwch, ac aur fel llaid heol. Ond wele, y mae'r ARGLWYDD yn cymryd ei heiddo ac yn difetha ei grym ar y môr; ac ysir hithau yn y tân. Bydd Ascalon yn gweld ac yn ofni, Gasa hefyd, a bydd yn gwingo gan ofid, ac Ecron, oherwydd drysir ei gobaith; derfydd am frenin yn Gasa, a bydd Ascalon heb drigolion; pobl gymysgryw fydd yn trigo yn Asdod, a thorraf ymaith falchder y Philistiad. Tynnaf ymaith ei waed o'i enau, a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd; bydd yntau'n weddill i'n Duw ni, ac fel tylwyth yn Jwda; a bydd Ecron fel y Jebusiaid. Yna gwersyllaf i wylio fy nhŷ, fel na chaiff neb fynd i mewn nac allan. Ni ddaw gorthrymydd atynt mwyach, oherwydd yr wyf yn gwylio'n awr â'm llygaid fy hun. “Llawenha'n fawr, ferch Seion; bloeddia'n uchel, ferch Jerwsalem. Wele dy frenin yn dod atat â buddugoliaeth a gwaredigaeth, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ar ebol, llwdn asen. Tyr ymaith y cerbyd o Effraim a'r meirch o Jerwsalem; a thorrir ymaith y bwa rhyfel. Bydd yn siarad heddwch â'r cenhedloedd; bydd ei lywodraeth o fôr i fôr, o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear. “Amdanat ti, oherwydd gwaed y cyfamod rhyngom, gollyngaf dy garcharorion yn rhydd o'r pydew di-ddŵr. Dychwelwch i'ch amddiffynfa, chwi garcharorion hyderus; heddiw yr wyf yn cyhoeddi i chwi adferiad dauddyblyg. Yr wyf wedi plygu fy mwa, Jwda, ac wedi gosod fy saeth ynddo, Effraim; codaf dy feibion, Seion, yn erbyn meibion Groeg, a gwnaf di yn gleddyf rhyfelwr.” Bydd yr ARGLWYDD yn ymddangos uwch eu pennau, a'i saeth yn fflachio fel mellten; Bydd yr Arglwydd DDUW yn rhoi bloedd â'r utgorn ac yn mynd allan yng nghorwyntoedd y de. Bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn amddiffyn iddynt; llwyddant, sathrant y cerrig tafl, byddant yn derfysglyd feddw fel gan win, wedi eu trochi fel cyrn allor. Y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn eu gwaredu; bydd ei bobl fel praidd, fel gemau coron yn disgleirio dros ei dir. Mor dda ac mor brydferth fydd! Bydd ŷd yn nerth i'r llanciau, a gwin i'r morynion.

Sechareia 9:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Baich gair yr ARGLWYDD yn nhir Hadrach, a Damascus fydd ei orffwysfa ef: pan fyddo llygaid dyn ar yr ARGLWYDD, fel yr eiddo holl lwythau Israel. A Hamath hefyd a derfyna wrthi; Tyrus a Sidon hefyd, er ei bod yn ddoeth iawn. A Thyrus a adeiladodd iddi ei hun amddiffynfa, ac a bentyrrodd arian fel llwch, ac aur coeth fel tom yr heolydd. Wele, yr ARGLWYDD a’i bwrw hi allan, ac a dery ei nerth hi yn y môr; a hi a ysir â thân. Ascalon a’i gwêl, ac a ofna; a Gasa, ac a ymofidia yn ddirfawr; Ecron hefyd, am ei chywilyddio o’i gobaith; difethir hefyd y brenin allan o Gasa, ac Ascalon ni chyfanheddir. Estron hefyd a drig yn Asdod, a thorraf ymaith falchder y Philistiaid. A mi a gymeraf ymaith ei waed o’i enau, a’i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd: ac efe a weddillir i’n DUW ni, fel y byddo megis pennaeth yn Jwda, ac Ecron megis Jebusiad. A gwersyllaf o amgylch fy nhŷ rhag y llu, rhag a êl heibio, a rhag a ddychwelo; fel nad elo gorthrymwr trwyddynt mwyach: canys yn awr gwelais â’m llygaid. Bydd lawen iawn, ti ferch Seion; a chrechwena, ha ferch Jerwsalem: wele dy frenin yn dyfod atat: cyfiawn ac achubydd yw efe; y mae efe yn llariaidd, ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol llwdn asen. Torraf hefyd y cerbyd oddi wrth Effraim, a’r march oddi wrth Jerwsalem, a’r bwa rhyfel a dorrir: ac efe a lefara heddwch i’r cenhedloedd: a’i lywodraeth fydd o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd eithafoedd y ddaear. A thithau, trwy waed dy amod y gollyngais dy garcharorion o’r pydew heb ddwfr ynddo. Trowch i’r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol; heddiw yr ydwyf yn dangos y talaf i ti yn ddauddyblyg: Pan anelwyf Jwda i mi, ac y llanwyf y bwa ag Effraim, ac y cyfodwyf dy feibion di, Seion, yn erbyn dy feibion di, Groeg, ac y’th wnelwyf fel cleddyf gŵr grymus: A’r ARGLWYDD a welir trostynt, a’i saeth ef a â allan fel mellten: a’r ARGLWYDD DDUW a gân ag utgorn, ac a gerdd â chorwyntoedd y deau. ARGLWYDD y lluoedd a’u hamddiffyn hwynt: a hwy a ysant, ac a ddarostyngant gerrig y dafl; yfant, a therfysgant megis mewn gwin, a llenwir hwynt fel meiliau, ac fel conglau yr allor. A’r ARGLWYDD eu DUW a’u gwared hwynt y dydd hwnnw fel praidd ei bobl: canys fel meini coron y byddant, wedi eu dyrchafu yn fanerau ar ei dir ef. Canys pa faint yw ei ddaioni ef, a pha faint ei degwch ef! ŷd a lawenycha y gwŷr ieuainc, a gwin y gwyryfon.