Yna dywedodd wrthyf, “Dyma air yr ARGLWYDD at Sorobabel: ‘Nid trwy lu ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd. Beth wyt ti, O fynydd mawr? O flaen Sorobabel nid wyt ond gwastadedd. Bydd ef yn gosod y garreg uchaf, a phawb yn galw arni, ‘Bendith! Bendith arni!’ ” Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Dwylo Sorobabel sy'n sylfaenu'r tŷ hwn, a'i ddwylo ef a'i gorffen”; a chewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd i atoch. “Pwy bynnag a ddirmygodd ddydd y pethau bychain, caiff lawenhau wrth weld carreg y gwahanu yn llaw Sorobabel. “Y saith hyn yw llygaid yr ARGLWYDD sy'n tramwyo dros yr holl ddaear.”
Darllen Sechareia 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Sechareia 4:6-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos