Yn yr wythfed mis o ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Sechareia fab Beracheia, fab Ido, a dweud, “Digiodd yr ARGLWYDD yn fawr wrth eich hynafiaid. Dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Dychwelwch ataf fi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘a dychwelaf finnau atoch chwi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd. ‘Peidiwch â bod fel eich hynafiaid, y galwodd y proffwydi gynt arnynt, a dweud, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Trowch oddi wrth eich ffyrdd drygionus a'ch gweithredoedd drygionus, ond ni wrandawsant na rhoi sylw imi,’ medd yr ARGLWYDD. ‘Eich hynafiaid—ple maent? A'r proffwydi—a ydynt i fyw am byth? Ond y geiriau a'r deddfau a orchmynnais i'm gweision y proffwydi—oni ddaethant ar eich hynafiaid? A ddychwelasant hwy a dweud, Gwnaeth ARGLWYDD y Lluoedd fel y bwriadodd i ni am ein ffyrdd a'n gweithredoedd?’ ”
Darllen Sechareia 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Sechareia 1:1-6
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos