Datguddiad 17
17
Y Farn ar y Butain Fawr
1Yna daeth un o'r saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt, a siarad â mi. “Tyrd yma,” meddai, “dangosaf iti'r farn ar y butain fawr sy'n eistedd ar lawer o ddyfroedd. 2Gyda hi y puteiniodd brenhinoedd y ddaear, ac ar win ei phuteindra y meddwodd trigolion y ddaear.” 3Yna cludodd fi yn yr Ysbryd i anialwch. Gwelais wraig yn eistedd ar fwystfil ysgarlad ag enwau cableddus drosto i gyd, a chanddo saith ben a deg corn. 4Yr oedd y wraig wedi ei gwisgo â phorffor ac ysgarlad, a'i thecáu â thlysau aur, â gemau gwerthfawr ac â pherlau. Yn ei llaw yr oedd ganddi gwpan aur yn llawn o ffieidd-dra ac aflendid ei phuteindra hi. 5Ac ar ei thalcen yr oedd enw wedi ei ysgrifennu, ac ystyr dirgel iddo: “Babilon fawr, mam puteiniaid a ffiaidd bethau'r ddaear.” 6Gwelais y wraig yn feddw ar waed y saint ac ar waed tystion Iesu.
Wrth edrych arni, rhyfeddais yn fawr iawn. 7Gofynnodd yr angel imi, “Pam yr wyt yn rhyfeddu? Fe esboniaf fi iti ddirgelwch y wraig a'r bwystfil sy'n ei chario, y bwystfil y mae'r saith ben a'r deg corn ganddo. 8Ynglŷn â'r bwystfil a welaist, yr oedd yn bod, ac nid yw'n bod, ond y mae ar fin codi o'r dyfnder a mynd i ddistryw. Bydd trigolion y ddaear, y rhai nad yw eu henwau'n ysgrifenedig yn llyfr y bywyd er seiliad y byd, yn rhyfeddu o weld y bwystfil; oherwydd yr oedd yn bod, ac nid yw'n bod, ac y mae i ddod. 9Yma y mae angen meddwl â gwelediad ganddo: y saith ben, saith mynydd ydynt, ac arnynt y mae'r wraig yn eistedd. 10A saith brenin ydynt hefyd; y mae pump wedi syrthio, y mae un yn llywodraethu, nid yw'r llall wedi dod eto, a phan ddaw nid yw i aros ond am fyr amser. 11A'r bwystfil oedd yn bod ac nad yw'n bod, yr wythfed yw ef, ac eto y mae'n un o'r saith, ac y mae'n mynd i ddistryw. 12A'r deg corn a welaist, deg brenin ydynt, rhai na ddaethant eto i'r orsedd, ond fe dderbyniant awdurdod brenhinol am un awr ynghyd â'r bwystfil. 13Y mae'r rhain yn unfryd ar drosglwyddo eu gallu a'u hawdurdod i'r bwystfil. 14Fe ryfelant yn erbyn yr Oen, ac fe orchfyga'r Oen hwy, oherwydd y mae ef yn Arglwydd arglwyddi a Brenin brenhinoedd, a'i osgorddlu ef yw'r rhai a alwyd ac a etholwyd ac sy'n ffyddlon.”
15A dywedodd wrthyf, “Y dyfroedd a welaist, lle'r oedd y butain yn eistedd, pobloedd a thyrfaoedd, cenhedloedd ac ieithoedd ydynt. 16A'r deg corn a welaist, a'r bwystfil, byddant hwy'n casáu'r butain, ac yn ei gadael yn ddiffaith ac yn noeth. Bwytânt ei chnawd hi a'i llosgi'n ulw â thân. 17Oherwydd rhoddodd Duw yn eu calonnau gyflawni ei fwriad ef, iddynt drosglwyddo'n unfryd eu teyrnas i'r bwystfil hyd nes cwblhau geiriau Duw. 18Y wraig a welaist yw'r ddinas fawr sydd â'r frenhiniaeth ganddi ar frenhinoedd y ddaear.”
Dewis Presennol:
Datguddiad 17: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004