Agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei enw a'i breswylfa ef, sef y rhai sy'n preswylio yn y nef. Rhoddwyd hawl iddo hefyd i ryfela yn erbyn y saint a'u gorchfygu hwy, a rhoddwyd iddo awdurdod ar bob llwyth a phobl ac iaith a chenedl. Bydd holl drigolion y ddaear yn ei addoli ef, pob un nad yw ei enw'n ysgrifenedig er seiliad y byd yn llyfr bywyd yr Oen a laddwyd.
Darllen Datguddiad 13
Gwranda ar Datguddiad 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Datguddiad 13:6-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos