Fe'i bwriwyd hi, y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, yr un sy'n twyllo'r holl fyd, fe'i bwriwyd i'r ddaear a'i hangylion gyda hi. Yna clywais lais uchel yn y nef yn dweud: “Hon yw awr gwaredigaeth a gallu a brenhiniaeth ein Duw ni, ac awdurdod ei Grist ef, oherwydd bwriwyd i lawr gyhuddwr ein cymrodyr, yr hwn sy'n eu cyhuddo gerbron ein Duw ddydd a nos. Ond y maent hwy wedi ei orchfygu trwy waed yr Oen a thrwy air eu tystiolaeth, yn ddibris o'u bywyd hyd angau.
Darllen Datguddiad 12
Gwranda ar Datguddiad 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Datguddiad 12:9-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos