Yna bu rhyfel yn y nef, Mihangel a'i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig. Rhyfelodd y ddraig a'i hangylion hithau, ond ni orchfygodd, a bellach nid oedd lle iddynt yn y nef. Fe'i bwriwyd hi, y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, yr un sy'n twyllo'r holl fyd, fe'i bwriwyd i'r ddaear a'i hangylion gyda hi. Yna clywais lais uchel yn y nef yn dweud: “Hon yw awr gwaredigaeth a gallu a brenhiniaeth ein Duw ni, ac awdurdod ei Grist ef, oherwydd bwriwyd i lawr gyhuddwr ein cymrodyr, yr hwn sy'n eu cyhuddo gerbron ein Duw ddydd a nos. Ond y maent hwy wedi ei orchfygu trwy waed yr Oen a thrwy air eu tystiolaeth, yn ddibris o'u bywyd hyd angau. Am hynny, gorfoleddwch, chwi'r nefoedd, a chwi sy'n preswylio ynddynt! Gwae chwi'r ddaear a'r môr, oherwydd disgynnodd y diafol arnoch yn fawr ei lid, o wybod mai byr yw'r amser sydd ganddo!” Pan welodd y ddraig ei bod wedi ei bwrw i'r ddaear, aeth i erlid y wraig a esgorodd ar y plentyn gwryw. Ond rhoddwyd i'r wraig ddwy adain eryr mawr er mwyn iddi hedfan i'r anialwch i'w lle ei hun, i'w chynnal yno am amser ac amserau a hanner amser, o olwg y sarff. Poerodd y sarff o'i genau afon o ddŵr ar ôl y wraig, i'w hysgubo ymaith gyda'r llif. Ond rhoes y ddaear ddihangfa i'r wraig: agorodd y ddaear ei genau a llyncu'r afon a boerodd y ddraig o'i genau. Llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac aeth ymaith i ryfela yn erbyn gweddill ei phlant hi, y rhai sy'n cadw gorchmynion Duw ac yn glynu wrth dystiolaeth Iesu.
Darllen Datguddiad 12
Gwranda ar Datguddiad 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Datguddiad 12:7-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos