Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 99

99
1Y mae'r ARGLWYDD yn frenin, cryna'r bobloedd;
y mae wedi ei orseddu uwch y cerwbiaid, ysgydwa'r ddaear.
2Y mae'r ARGLWYDD yn fawr yn Seion,
y mae'n ddyrchafedig uwch yr holl bobloedd.
3Bydded iddynt foli dy enw mawr ac ofnadwy—
sanctaidd yw ef.
4Un cryf sydd frenin; y mae'n caru cyfiawnder.
Ti sydd wedi sefydlu uniondeb;
gwnaethost farn a chyfiawnder yn Jacob.
5Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw;
ymgrymwch o flaen ei droedfainc—
sanctaidd yw ef.
6Yr oedd Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid,
a Samuel ymhlith y rhai a alwodd ar ei enw;
galwasant ar yr ARGLWYDD, ac atebodd hwy.
7Llefarodd wrthynt mewn colofn gwmwl;
cadwasant ei dystiolaethau a'r ddeddf a roddodd iddynt.
8O ARGLWYDD, ein Duw, atebaist hwy;
Duw yn maddau fuost iddynt,
ond yn dial eu camweddau.
9Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw,
ymgrymwch yn ei fynydd sanctaidd—
sanctaidd yw'r ARGLWYDD ein Duw.

Dewis Presennol:

Y Salmau 99: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd