Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 9:1-20

Y Salmau 9:1-20 BCND

Diolchaf i ti, ARGLWYDD, â'm holl galon, adroddaf am dy ryfeddodau. Llawenhaf a gorfoleddaf ynot ti, canaf fawl i'th enw, y Goruchaf. Pan dry fy ngelynion yn eu holau, baglant a threngi o'th flaen. Gwnaethost yn deg â mi yn fy achos, ac eistedd ar dy orsedd yn farnwr cyfiawn. Ceryddaist y cenhedloedd a difetha'r drygionus, a dileaist eu henw am byth. Darfu am y gelyn mewn adfeilion bythol; yr wyt wedi chwalu eu dinasoedd, a diflannodd y cof amdanynt. Ond y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu am byth, ac wedi paratoi ei orsedd i farn. Fe farna'r byd mewn cyfiawnder, a gwrando achos y bobloedd yn deg. Bydded yr ARGLWYDD yn amddiffynfa i'r gorthrymedig, yn amddiffynfa yn amser cyfyngder, fel y bydd i'r rhai sy'n cydnabod dy enw ymddiried ynot; oherwydd ni adewaist, ARGLWYDD, y rhai sy'n dy geisio. Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n trigo yn Seion, cyhoeddwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd. Fe gofia'r dialydd gwaed amdanynt; nid yw'n anghofio gwaedd yr anghenus. Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, sy'n fy nyrchafu o byrth angau; edrych ar fy adfyd oddi ar law y rhai sy'n fy nghasáu, imi gael adrodd dy holl fawl a llawenhau yn dy waredigaeth ym mhyrth merch Seion. Suddodd y cenhedloedd i'r pwll a wnaethant eu hunain, daliwyd eu traed yn y rhwyd yr oeddent hwy wedi ei chuddio. Datguddiodd yr ARGLWYDD ei hun, gwnaeth farn; maglwyd y drygionus gan waith ei ddwylo'i hun. Higgaion. Sela Bydded i'r drygionus ddychwelyd i Sheol, a'r holl genhedloedd sy'n anghofio Duw. Oherwydd nid anghofir y tlawd am byth, ac ni ddryllir gobaith yr anghenus yn barhaus. Cyfod, ARGLWYDD; na threched meidrolion, ond doed y cenhedloedd i farn o'th flaen. Rho arswyd ynddynt, ARGLWYDD, a bydded i'r cenhedloedd wybod mai meidrol ydynt. Sela