O ARGLWYDD, ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! Gosodaist dy ogoniant uwch y nefoedd, codaist amddiffyn rhag dy elynion o enau babanod a phlant sugno, a thawelu'r gelyn a'r dialydd. Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd, y lloer a'r sêr, a roddaist yn eu lle, beth yw meidrolyn, iti ei gofio, a'r teulu dynol, iti ofalu amdano? Eto gwnaethost ef ychydig islaw duw a'i goroni â gogoniant ac anrhydedd. Rhoist iddo awdurdod ar waith dy ddwylo, a gosod popeth dan ei draed: defaid ac ychen i gyd, yr anifeiliaid gwylltion hefyd, adar y nefoedd, a physgod y môr, a phopeth sy'n tramwyo llwybrau'r dyfroedd. O ARGLWYDD, ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!
Darllen Y Salmau 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 8:1-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos