Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 78:51-72

Y Salmau 78:51-72 BCND

Trawodd holl rai cyntafanedig yr Aifft, blaenffrwyth eu nerth ym mhebyll Ham. Yna dygodd allan ei bobl fel defaid, a'u harwain fel praidd trwy'r anialwch; arweiniodd hwy'n ddiogel heb fod arnynt ofn, ond gorchuddiodd y môr eu gelynion. Dygodd hwy i'w dir sanctaidd, i'r mynydd a goncrodd â'i ddeheulaw. Gyrrodd allan genhedloedd o'u blaenau; rhannodd eu tir yn etifeddiaeth, a gwneud i lwythau Israel fyw yn eu pebyll. Eto, profasant y Duw Goruchaf a gwrthryfela yn ei erbyn, ac nid oeddent yn cadw ei ofynion. Troesant a mynd yn fradwrus fel eu hynafiaid; yr oeddent mor dwyllodrus â bwa llac. Digiasant ef â'u huchelfeydd, a'i wneud yn eiddigeddus â'u heilunod. Pan glywodd Duw, fe ddigiodd, a gwrthod Israel yn llwyr; gadawodd ei drigfan yn Seilo, y babell lle'r oedd yn byw ymysg pobl; gadawodd i'w gadernid fynd i gaethglud, a'i ogoniant i ddwylo gelynion; rhoes ei bobl i'r cleddyf, a thywallt ei lid ar ei etifeddiaeth. Ysodd tân eu gwŷr ifainc, ac nid oedd gân briodas i'w morynion; syrthiodd eu hoffeiriaid trwy'r cleddyf, ac ni allai eu gweddwon alaru. Yna, cododd yr Arglwydd, fel o gwsg, fel rhyfelwr yn cael ei symbylu gan win. Trawodd ei elynion yn eu holau, a dwyn arnynt warth tragwyddol. Gwrthododd babell Joseff, ac ni ddewisodd lwyth Effraim; ond dewisodd lwyth Jwda, a Mynydd Seion y mae'n ei garu. Cododd ei gysegr cyn uched â'r nefoedd, a'i sylfeini, fel y ddaear, am byth. Dewisodd Ddafydd yn was iddo, a'i gymryd o'r corlannau defaid; o fod yn gofalu am y mamogiaid daeth ag ef i fugeilio'i bobl Jacob, ac Israel ei etifeddiaeth. Bugeiliodd hwy â chalon gywir, a'u harwain â llaw ddeheuig.