Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 76

76
I'r Cyfarwyddwr: ar offerynnau llinynnol. Salm. I Asaff. Cân.
1Y mae Duw'n adnabyddus yn Jwda,
a'i enw'n fawr yn Israel;
2y mae ei babell wedi ei gosod yn Salem,
a'i gartref yn Seion.
3Yno fe faluriodd y saethau tanllyd,
y darian, y cleddyf a'r arfau rhyfel.
Sela
4Ofnadwy#76:4 Felly Fersiynau. Hebraeg, Gogoneddus. wyt ti, a chryfach
na'r mynyddoedd tragwyddol#76:4 Felly Fersiynau. Hebraeg, mynyddoedd ysbail..
5Ysbeiliwyd y rhai cryf o galon,
y maent wedi suddo i gwsg,
a phallodd nerth yr holl ryfelwyr.
6Gan dy gerydd di, O Dduw Jacob,
syfrdanwyd y marchog a'r march.
7Ofnadwy wyt ti. Pwy a all sefyll o'th flaen
pan fyddi'n ddig?
8Yr wyt wedi cyhoeddi dedfryd o'r nefoedd;
ofnodd y ddaear a distewi
9pan gododd Duw i farnu,
ac i waredu holl drueiniaid y ddaear.
Sela
10Bydd Edom, er ei ddig, yn dy foliannu,
a gweddill Hamath yn cadw gŵyl i ti#76:10 Felly Fersiynau. Hebraeg, yn gwisgo..
11Gwnewch eich addunedau i'r ARGLWYDD eich Duw, a'u talu;
bydded i bawb o'i amgylch ddod â rhoddion i'r un ofnadwy.
12Y mae'n dryllio ysbryd tywysogion,
ac yn arswyd i frenhinoedd y ddaear.

Dewis Presennol:

Y Salmau 76: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda