O Dduw, rho dy farnedigaeth i'r brenin, a'th gyfiawnder i fab y brenin. Bydded iddo farnu dy bobl yn gyfiawn, a'th rai anghenus yn gywir. Doed y mynyddoedd â heddwch i'r bobl, a'r bryniau â chyfiawnder. Bydded iddo amddiffyn achos tlodion y bobl, a gwaredu'r rhai anghenus, a dryllio'r gorthrymwr. Bydded iddo fyw tra bo haul a chyhyd â'r lleuad, o genhedlaeth i genhedlaeth. Bydded fel glaw yn disgyn ar gnwd, ac fel cawodydd yn dyfrhau'r ddaear. Bydded cyfiawnder yn llwyddo yn ei ddyddiau, a heddwch yn ffynnu tra bo lleuad. Bydded iddo lywodraethu o fôr i fôr, ac o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear. Bydded i'w wrthwynebwyr blygu o'i flaen, ac i'w elynion lyfu'r llwch. Bydded i frenhinoedd Tarsis a'r ynysoedd ddod ag anrhegion iddo, ac i frenhinoedd Sheba a Seba gyflwyno eu teyrnged. Bydded i'r holl frenhinoedd ymostwng o'i flaen, ac i'r holl genhedloedd ei wasanaethu. Oherwydd y mae'n gwaredu'r anghenus pan lefa, a'r tlawd pan yw heb gynorthwywr. Y mae'n tosturio wrth y gwan a'r anghenus, ac yn gwaredu bywyd y tlodion.
Darllen Y Salmau 72
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 72:1-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos