Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 69:1-15

Y Salmau 69:1-15 BCND

Gwareda fi, O Dduw, oherwydd cododd y dyfroedd at fy ngwddf. Yr wyf yn suddo mewn llaid dwfn, a heb le i sefyll arno; yr wyf wedi mynd i ddyfroedd dyfnion, ac y mae'r llifogydd yn fy sgubo ymaith. Yr wyf wedi diffygio'n gweiddi, a'm gwddw'n sych; y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am fy Nuw. Mwy niferus na gwallt fy mhen yw'r rhai sy'n fy nghasáu heb achos; lluosocach na'm hesgyrn yw fy ngelynion twyllodrus. Sut y dychwelaf yr hyn nas cymerais? O Dduw, gwyddost ti fy ffolineb, ac nid yw fy nhroseddau'n guddiedig oddi wrthyt. Na fydded i'r rhai sy'n gobeithio ynot gael eu cywilyddio o'm plegid, O Arglwydd DDUW y Lluoedd, nac i'r rhai sy'n dy geisio gael eu gwaradwyddo o'm hachos, O Dduw Israel. Oherwydd er dy fwyn di y dygais warth, ac y mae fy wyneb wedi ei orchuddio â chywilydd. Euthum yn ddieithryn i'm brodyr, ac yn estron i blant fy mam. Y mae sêl dy dŷ di wedi fy ysu, a daeth gwaradwydd y rhai sy'n dy waradwyddo di arnaf finnau. Pan wylaf wrth ymprydio, fe'i hystyrir yn waradwydd i mi; pan wisgaf sachliain amdanaf, fe'm gwneir yn ddihareb iddynt. Y mae'r rhai sy'n eistedd wrth y porth yn siarad amdanaf, ac yr wyf yn destun i watwar y meddwon. Ond daw fy ngweddi i atat, O ARGLWYDD. Ar yr amser priodol, O Dduw, ateb fi yn dy gariad mawr gyda'th waredigaeth sicr. Gwared fi o'r llaid rhag imi suddo, achuber fi o'r mwd ac o'r dyfroedd dyfnion. Na fydded i'r llifogydd fy sgubo ymaith, na'r dyfnder fy llyncu, na'r pwll gau ei safn amdanaf.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd