Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 56

56
I'r Cyfarwyddwr: ar Golomen y Derw Pell. Michtam. I Ddafydd, pan ddaliodd y Philistiaid ef yn Gath.
1Bydd drugarog wrthyf, O Dduw,
oherwydd y mae pobl yn gwasgu arnaf,
ac ymosodwyr yn fy ngorthrymu drwy'r dydd;
2y mae fy ngelynion yn gwasgu arnaf drwy'r dydd,
a llawer yw'r rhai sy'n ymladd yn f'erbyn.
3Cod fi i fyny#56:3 Tebygol. Hebraeg, O Uchder ar ddiwedd yr adn. flaenorol. yn nydd fy ofn;
yr wyf yn ymddiried ynot ti.
4Yn Nuw, yr un y molaf ei air,
yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni;
beth a all pobl ei wneud imi?
5Trwy'r dydd y maent yn ystumio fy ngeiriau,
ac y mae eu holl fwriadau i'm drygu.
6Ymgasglant#56:6 Felly Fersiynau. Hebraeg, Codant derfysg. at ei gilydd a llechu,
ac y maent yn gwylio fy nghamre.
7Fel y disgwyliant am fy mywyd,
tâl iddynt#56:7 Tebygol. Hebraeg, gwareda hwy. am eu trosedd;
yn dy ddig, O Dduw, darostwng bobloedd.
8Yr wyt ti wedi cofnodi fy ocheneidiau,
ac wedi costrelu fy nagrau—
onid ydynt yn dy lyfr?
9Yna troir fy ngelynion yn eu hôl
yn y dydd y galwaf arnat.
Hyn a wn: fod Duw o'm tu.
10Yn Nuw, yr un y molaf ei air,
yn yr ARGLWYDD, y molaf ei air,
11yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni;
beth a all pobl ei wneud imi?
12Gwneuthum addunedau i ti, O Dduw;
fe'u talaf i ti ag offrymau diolch.
13Oherwydd gwaredaist fy mywyd rhag angau,
a'm camau, yn wir, rhag llithro,
er mwyn imi rodio gerbron Duw
yng ngoleuni'r bywyd.

Dewis Presennol:

Y Salmau 56: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd