O Dduw, clywsom â'n clustiau, dywedodd ein hynafiaid wrthym am y gwaith a wnaethost yn eu dyddiau hwy, yn y dyddiau gynt â'th law dy hun. Gyrraist genhedloedd allan, ond eu plannu hwy; difethaist bobloedd, ond eu llwyddo hwy; oherwydd nid â'u cleddyf y cawsant y tir, ac nid â'u braich y cawsant fuddugoliaeth, ond trwy dy ddeheulaw a'th fraich di, a llewyrch dy wyneb, am dy fod yn eu hoffi. Ti yw fy Mrenin a'm Duw, ti sy'n rhoi buddugoliaeth i Jacob. Trwot ti y darostyngwn ein gelynion, trwy dy enw y sathrwn ein gwrthwynebwyr. Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf, ac nid fy nghleddyf a'm gwareda. Ond ti a'n gwaredodd rhag ein gelynion a chywilyddio'r rhai sy'n ein casáu. Yn Nuw yr ydym erioed wedi ymffrostio, a chlodforwn dy enw am byth. Sela Ond yr wyt wedi'n gwrthod a'n darostwng, ac nid ei allan mwyach gyda'n byddinoedd. Gwnei inni gilio o flaen y gelyn, a chymerodd y rhai sy'n ein casáu yr ysbail. Gwnaethost ni fel defaid i'w lladd, a'n gwasgaru ymysg y cenhedloedd. Gwerthaist dy bobl am y nesaf peth i ddim, ac ni chefaist elw o'r gwerthiant. Gwnaethost ni'n warth i'n cymdogion, yn destun gwawd a dirmyg i'r rhai o'n hamgylch.
Darllen Y Salmau 44
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 44:1-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos