ARGLWYDD, mor lluosog yw fy ngwrthwynebwyr! Y mae llawer yn codi yn f'erbyn, a llawer yn dweud amdanaf, “Ni chaiff waredigaeth yn Nuw.” Sela Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn darian i mi, yn ogoniant i mi ac yn fy nyrchafu. Gwaeddaf yn uchel ar yr ARGLWYDD, ac etyb fi o'i fynydd sanctaidd. Sela Yr wyf yn gorwedd ac yn cysgu, ac yna'n deffro am fod yr ARGLWYDD yn fy nghynnal. Nid ofnwn pe bai myrddiwn o bobl yn ymosod arnaf o bob tu. Cyfod, ARGLWYDD; gwareda fi, O fy Nuw. Byddi'n taro fy holl elynion yn eu hwyneb, ac yn torri dannedd y drygionus. I'r ARGLWYDD y perthyn gwaredigaeth; bydded dy fendith ar dy bobl. Sela
Darllen Y Salmau 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 3:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos