Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 21

21
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.
1O ARGLWYDD, fe lawenycha'r brenin yn dy nerth;
mor fawr yw ei orfoledd yn dy waredigaeth!
2Rhoddaist iddo ddymuniad ei galon,
ac ni wrthodaist iddo ddeisyfiad ei wefusau.
Sela
3Daethost i'w gyfarfod â bendithion daionus,
a rhoi coron o aur coeth ar ei ben.
4Am fywyd y gofynnodd iti, ac fe'i rhoddaist iddo—
hir ddyddiau byth bythoedd.
5Mawr yw ei ogoniant oherwydd dy waredigaeth;
yr wyt yn rhoi iddo ysblander ac anrhydedd,
6yr wyt yn rhoi bendithion iddo dros byth
ac yn ei lawenhau â gorfoledd dy bresenoldeb.
7Y mae'r brenin yn ymddiried yn yr ARGLWYDD,
ac oherwydd ffyddlondeb y Goruchaf nis symudir.
8Caiff dy law afael ar dy holl elynion,
a'th ddeheulaw ar y rhai sy'n dy gasáu.
9Byddi'n eu gwneud fel ffwrnais danllyd pan ymddangosi;
bydd yr ARGLWYDD yn eu difa yn ei lid,
a'r tân yn eu hysu.
10Byddi'n dinistrio'u hepil oddi ar y ddaear,
a'u plant o blith y ddynolryw.
11Yr oeddent yn bwriadu drwg yn d'erbyn,
ac yn cynllunio niwed heb lwyddo;
12oherwydd byddi di'n gwneud iddynt ffoi,
ac yn anelu at eu hwynebau â'th fwa.
13Dyrchafa, ARGLWYDD, yn dy nerth!
Cawn ganu a'th ganmol am dy gryfder!

Dewis Presennol:

Y Salmau 21: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd