Gwrando, ARGLWYDD, gri am gyfiawnder; rho sylw i'm llef a gwrandawiad i'm gweddi oddi ar wefusau didwyll. Doed fy marn oddi wrthyt ti, edryched dy lygaid ar yr hyn sy'n iawn. Profaist fy nghalon a'm gwylio yn y nos, chwiliaist fi ond heb gael drygioni ynof. Ni throseddodd fy ngenau fel y gwna eraill, ond fe gedwais eiriau dy wefusau. Ar lwybrau'r anufudd byddai fy nghamau'n pallu, ond ar dy lwybrau di nid yw fy nhraed yn methu. Gwaeddaf arnat ti am dy fod yn f'ateb, O Dduw; tro dy glust ataf, gwrando fy ngeiriau. Dangos dy ffyddlondeb rhyfeddol, ti, sy'n gwaredu â'th ddeheulaw y rhai sy'n llochesu ynot rhag eu gwrthwynebwyr. Cadw fi fel cannwyll dy lygad, cuddia fi dan gysgod dy adenydd rhag y drygionus sy'n fy nistrywio, y gelynion sydd yn eu gwanc yn f'amgylchu. Maent wedi mygu tosturi, y mae eu genau'n llefaru balchder; y maent ar fy sodlau ac ar gau amdanaf, wedi gosod eu bryd ar fy mwrw i'r llawr; y maent fel llew yn barod i larpio, fel llew ifanc yn llechu yn ei guddfan. Cyfod, ARGLWYDD, saf yn eu herbyn a'u bwrw i lawr! Â'th gleddyf gwared fy mywyd rhag y drygionus; â'th law, ARGLWYDD, gwna ddiwedd arnynt, difa hwy o'u rhan yng nghanol bywyd. Llanwer eu bol â'r hyn sydd gennyt ar eu cyfer, bydded i'w plant gael digon, a chadw gweddill i'w babanod! Ond byddaf fi yn fy nghyfiawnder yn gweld dy wyneb; pan ddeffroaf, digonir fi o weld dy wedd.
Darllen Y Salmau 17
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 17:1-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos