Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 148

148
1Molwch yr ARGLWYDD.
Molwch yr ARGLWYDD o'r nefoedd,
molwch ef yn yr uchelderau.
2Molwch ef, ei holl angylion;
molwch ef, ei holl luoedd.
3Molwch ef, haul a lleuad;
molwch ef, yr holl sêr disglair.
4Molwch ef, nef y nefoedd,
a'r dyfroedd sydd uwch y nefoedd.
5Bydded iddynt foli enw'r ARGLWYDD,
oherwydd ef a orchmynnodd, a chrewyd hwy;
6fe'u gwnaeth yn sicr fyth bythoedd;
rhoes iddynt ddeddf nas torrir.
7Molwch yr ARGLWYDD o'r ddaear,
chwi ddreigiau a'r holl ddyfnderau,
8tân a chenllysg, eira a mwg,
y gwynt stormus sy'n ufudd i'w air;
9y mynyddoedd a'r holl fryniau,
y coed ffrwythau a'r holl gedrwydd;
10anifeiliaid gwyllt a'r holl rai dof,
ymlusgiaid ac adar hedegog;
11brenhinoedd y ddaear a'r holl bobloedd,
tywysogion a holl farnwyr y ddaear;
12gwŷr ifainc a gwyryfon,
hynafgwyr a llanciau hefyd.
13Bydded iddynt foli enw'r ARGLWYDD,
oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafedig,
ac y mae ei ogoniant ef uwchlaw daear a nefoedd.
14Y mae wedi dyrchafu corn ei bobl,
ac ef yw moliant ei holl ffyddloniaid,
pobl Israel, sy'n agos ato.
Molwch yr ARGLWYDD.

Dewis Presennol:

Y Salmau 148: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda