Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 139

139
I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Salm.
1 ARGLWYDD, yr wyt wedi fy chwilio a'm hadnabod.
2Gwyddost ti pa bryd y byddaf yn eistedd ac yn codi;
yr wyt wedi deall fy meddwl o bell;
3yr wyt wedi mesur fy ngherdded a'm gorffwys,
ac yr wyt yn gyfarwydd â'm holl ffyrdd.
4Oherwydd nid oes air ar fy nhafod
heb i ti, ARGLWYDD, ei wybod i gyd.
5Yr wyt wedi cau amdanaf yn ôl ac ymlaen,
ac wedi gosod dy law drosof.
6Y mae'r wybodaeth hon yn rhy ryfedd i mi;
y mae'n rhy uchel i mi ei chyrraedd.
7I ble yr af oddi wrth dy ysbryd?
I ble y ffoaf o'th bresenoldeb?
8Os dringaf i'r nefoedd, yr wyt yno;
os cyweiriaf wely yn Sheol, yr wyt yno hefyd.
9Os cymeraf adenydd y wawr
a thrigo ym mhellafoedd y môr,
10yno hefyd fe fydd dy law yn fy arwain,
a'th ddeheulaw yn fy nghynnal.
11Os dywedaf, “Yn sicr bydd y tywyllwch yn fy nghuddio#139:11 Felly Fersiynau. Hebraeg, fy nhrechu.,
a'r nos yn cau#139:11 Felly Sgrôl. TM, yn oleuni. amdanaf”,
12eto nid yw tywyllwch yn dywyllwch i ti;
y mae'r nos yn goleuo fel dydd,
a'r un yw tywyllwch a goleuni.
13Ti a greodd fy ymysgaroedd,
a'm llunio yng nghroth fy mam.
14Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol,
ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol.
Yr wyt yn fy adnabod mor dda;
15ni chuddiwyd fy ngwneuthuriad oddi wrthyt
pan oeddwn yn cael fy ngwneud yn y dirgel,
ac yn cael fy llunio yn nyfnderoedd y ddaear.
16Gwelodd dy lygaid fy nefnydd di-lun;
y mae'r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr;
cafodd fy nyddiau eu ffurfio
pan nad oedd yr un ohonynt.
17Mor ddwfn i mi yw dy feddyliau, O Dduw,
ac mor lluosog eu nifer!
18Os cyfrifaf hwy, y maent yn amlach na'r tywod,
a phe gorffennwn hynny, byddit ti'n parhau gyda mi.
19Fy Nuw, O na fyddit ti'n lladd y drygionus,
fel y byddai rhai gwaedlyd yn troi oddi wrthyf—
20y rhai sy'n dy herio di yn ddichellgar,
ac yn gwrthryfela'n ofer yn dy erbyn.
21Onid wyf yn casáu, O ARGLWYDD, y rhai sy'n dy gasáu di,
ac yn ffieiddio'r rhai sy'n codi yn dy erbyn?
22Yr wyf yn eu casáu â chas perffaith,
ac y maent fel gelynion i mi.
23Chwilia fi, O Dduw, iti adnabod fy nghalon;
profa fi, iti ddeall fy meddyliau.
24Edrych a wyf ar ffordd a fydd yn loes i mi,
ac arwain fi yn y ffordd dragwyddol.

Dewis Presennol:

Y Salmau 139: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd