Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 138

138
I Ddafydd.
1Clodforaf di â'm holl galon,
canaf fawl i ti yng ngŵydd duwiau.
2Ymgrymaf tuag at dy deml sanctaidd,
a chlodforaf dy enw am dy gariad a'th ffyddlondeb,
oherwydd dyrchefaist dy enw a'th air uwchlaw popeth.
3Pan elwais arnat, atebaist fi,
a chynyddaist fy#138:3 Felly Fersiynau. Hebraeg, a gwnaethost fi'n eofn â. nerth ynof.
4Bydded i holl frenhinoedd y ddaear dy glodfori, O ARGLWYDD,
am iddynt glywed geiriau dy enau;
5bydded iddynt ganu am ffyrdd yr ARGLWYDD,
oherwydd mawr yw gogoniant yr ARGLWYDD.
6Er bod yr ARGLWYDD yn uchel, fe gymer sylw o'r isel,
ac fe ddarostwng y balch o bell.
7Er imi fynd trwy ganol cyfyngder, adfywiaist fi;
estynnaist dy law yn erbyn llid fy ngelynion,
a gwaredaist fi â'th ddeheulaw.
8Bydd yr ARGLWYDD yn gweithredu ar fy rhan.
O ARGLWYDD, y mae dy gariad hyd byth;
paid â gadael gwaith dy ddwylo.

Dewis Presennol:

Y Salmau 138: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda