Ger afonydd Babilon yr oeddem yn eistedd ac yn wylo wrth inni gofio am Seion. Ar yr helyg yno bu inni grogi ein telynau, oherwydd yno gofynnodd y rhai a'n caethiwai am gân, a'r rhai a'n hanrheithiai am ddifyrrwch. “Canwch inni,” meddent, “rai o ganeuon Seion.” Sut y medrwn ganu cân yr ARGLWYDD mewn tir estron? Os anghofiaf di, Jerwsalem, bydded fy neheulaw'n ddiffrwyth; bydded i'm tafod lynu wrth daflod fy ngenau os na chofiaf di, os na osodaf Jerwsalem yn uwch na'm llawenydd pennaf. O ARGLWYDD, dal yn erbyn pobl Edom ddydd gofid Jerwsalem, am iddynt ddweud, “I lawr â hi, i lawr â hi hyd at ei sylfeini.” O ferch Babilon, a ddistrywir, gwyn ei fyd y sawl sy'n talu'n ôl i ti am y cyfan a wnaethost i ni. Gwyn ei fyd y sawl sy'n cipio dy blant ac yn eu dryllio yn erbyn y graig.
Darllen Y Salmau 137
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 137:1-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos