Y Salmau 137
137
1Ger afonydd Babilon yr oeddem yn eistedd ac yn wylo
wrth inni gofio am Seion.
2Ar yr helyg yno
bu inni grogi ein telynau,
3oherwydd yno gofynnodd y rhai a'n caethiwai am gân,
a'r rhai a'n hanrheithiai am ddifyrrwch.
“Canwch inni,” meddent, “rai o ganeuon Seion.”
4Sut y medrwn ganu cân yr ARGLWYDD
mewn tir estron?
5Os anghofiaf di, Jerwsalem,
bydded fy neheulaw'n ddiffrwyth;
6bydded i'm tafod lynu wrth daflod fy ngenau
os na chofiaf di,
os na osodaf Jerwsalem
yn uwch na'm llawenydd pennaf.
7O ARGLWYDD, dal yn erbyn pobl Edom
ddydd gofid Jerwsalem,
am iddynt ddweud, “I lawr â hi, i lawr â hi
hyd at ei sylfeini.”
8O ferch Babilon, a ddistrywir,
gwyn ei fyd y sawl sy'n talu'n ôl i ti
am y cyfan a wnaethost i ni.
9Gwyn ei fyd y sawl sy'n cipio dy blant
ac yn eu dryllio yn erbyn y graig.
Dewis Presennol:
Y Salmau 137: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004