Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 132

132
Cân Esgyniad.
1O ARGLWYDD, cofia am Ddafydd
yn ei holl dreialon,
2fel y bu iddo dyngu i'r ARGLWYDD
ac addunedu i Un Cadarn Jacob,
3“Nid af i mewn i'r babell y trigaf ynddi,
nac esgyn i'r gwely y gorffwysaf arno;
4ni roddaf gwsg i'm llygaid
na hun i'm hamrannau,
5nes imi gael lle i'r ARGLWYDD
a thrigfan i Un Cadarn Jacob.”
6Wele, clywsom amdani yn Effrata,
a chawsom hi ym meysydd y coed.
7“Awn i mewn i'w drigfan
a phlygwn wrth ei droedfainc.
8Cyfod, ARGLWYDD, a thyrd i'th orffwysfa,
ti ac arch dy nerth.
9Bydded dy offeiriaid wedi eu gwisgo â chyfiawnder,
a bydded i'th ffyddloniaid orfoleddu.”
10Er mwyn Dafydd dy was,
paid â throi oddi wrth wyneb dy eneiniog.
11Tyngodd yr ARGLWYDD i Ddafydd
adduned sicr na thry oddi wrthi:
“O ffrwyth dy gorff
y gosodaf un ar dy orsedd.
12Os ceidw dy feibion fy nghyfamod,
a'r tystiolaethau a ddysgaf iddynt,
bydd eu meibion hwythau hyd byth
yn eistedd ar dy orsedd.”
13Oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD Seion,
a'i chwennych yn drigfan iddo:
14“Dyma fy ngorffwysfa am byth;
yma y trigaf am imi ei dewis.
15Bendithiaf hi â digonedd o ymborth,
a digonaf ei thlodion â bara.
16Gwisgaf ei hoffeiriaid ag iachawdwriaeth,
a bydd ei ffyddloniaid yn gorfoleddu.
17Yno y gwnaf i gorn dyfu i Ddafydd;
darperais lamp i'm heneiniog.
18Gwisgaf ei elynion â chywilydd,
ond ar ei ben ef y bydd coron ddisglair.”

Dewis Presennol:

Y Salmau 132: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda