O'r dyfnderau y gwaeddais arnat, O ARGLWYDD. Arglwydd, clyw fy llef; bydded dy glustiau'n agored i lef fy ngweddi. Os wyt ti, ARGLWYDD, yn cadw cyfrif o gamweddau, pwy, O Arglwydd, a all sefyll? Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y cei dy ofni. Disgwyliaf wrth yr ARGLWYDD; y mae fy enaid yn disgwyl, a gobeithiaf yn ei air; y mae fy enaid yn disgwyl wrth yr Arglwydd yn fwy nag y mae'r gwylwyr am y bore, yn fwy nag y mae'r gwylwyr am y bore. O Israel, gobeithia yn yr ARGLWYDD, oherwydd gyda'r ARGLWYDD y mae ffyddlondeb, a chydag ef y mae gwaredigaeth helaeth. Ef sydd yn gwaredu Israel oddi wrth ei holl gamweddau.
Darllen Y Salmau 130
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 130:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos