Salm 130:1-8
Salm 130:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O'r dyfnderau y gwaeddais arnat, O ARGLWYDD. Arglwydd, clyw fy llef; bydded dy glustiau'n agored i lef fy ngweddi. Os wyt ti, ARGLWYDD, yn cadw cyfrif o gamweddau, pwy, O Arglwydd, a all sefyll? Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y cei dy ofni. Disgwyliaf wrth yr ARGLWYDD; y mae fy enaid yn disgwyl, a gobeithiaf yn ei air; y mae fy enaid yn disgwyl wrth yr Arglwydd yn fwy nag y mae'r gwylwyr am y bore, yn fwy nag y mae'r gwylwyr am y bore. O Israel, gobeithia yn yr ARGLWYDD, oherwydd gyda'r ARGLWYDD y mae ffyddlondeb, a chydag ef y mae gwaredigaeth helaeth. Ef sydd yn gwaredu Israel oddi wrth ei holl gamweddau.
Salm 130:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O’r dyfnder y llefais arnat, O ARGLWYDD. ARGLWYDD, clyw fy llefain; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau. Os creffi ar anwireddau, ARGLWYDD, O ARGLWYDD, pwy a saif? Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y’th ofner. Disgwyliaf am yr ARGLWYDD, disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf. Fy enaid sydd yn disgwyl am yr ARGLWYDD yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore. Disgwylied Israel am yr ARGLWYDD; oherwydd y mae trugaredd gyda’r ARGLWYDD, ac aml ymwared gydag ef. Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau.