Y Salmau 122
122
Cân Esgyniad. I Ddafydd.
1Yr oeddwn yn llawen pan ddywedasant wrthyf,
“Gadewch inni fynd i dŷ'r ARGLWYDD.”
2Y mae ein traed bellach yn sefyll
o fewn dy byrth, O Jerwsalem.
3Adeiladwyd Jerwsalem yn ddinas
lle'r unir y bobl â'i gilydd.
4Yno yr esgyn y llwythau,
llwythau'r ARGLWYDD,
fel y gorchmynnwyd i Israel,
i roi diolch i enw'r ARGLWYDD.
5Yno y gosodwyd gorseddfeinciau barn,
gorseddfeinciau tŷ Dafydd.
6Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem,
“Bydded llwyddiant i'r rhai sy'n dy garu;
7bydded heddwch o fewn dy furiau,
a diogelwch o fewn dy geyrydd.”
8Er mwyn fy nghydnabod a'm cyfeillion,
dywedaf, “Bydded heddwch i ti.”
9Er mwyn tŷ yr ARGLWYDD ein Duw,
ceisiaf ddaioni i ti.
Dewis Presennol:
Y Salmau 122: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fcy.png&w=128&q=75)
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004