Y Salmau 108
108
Cân. Salm. I Ddafydd.
1Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw;
fe ganaf, a rhoi mawl.
Deffro, fy enaid.#108:1 Tebygol. Hebraeg, mawl, hyd yn oed fy anrhydedd.
2Deffro di, nabl a thelyn.
Fe ddeffroaf ar doriad gwawr.
3Rhof ddiolch i ti, O ARGLWYDD, ymysg y bobloedd,
a chanmolaf di ymysg y cenhedloedd,
4oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn hyd y nefoedd,
a'th wirionedd hyd y cymylau.
5Dyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw,
a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.
6Er mwyn gwaredu dy anwyliaid,
achub â'th ddeheulaw, ac ateb ni.
7Llefarodd Duw yn ei gysegr,
“Yr wyf yn gorfoleddu wrth rannu Sichem,
a mesur dyffryn Succoth yn rhannau;
8eiddof fi yw Gilead a Manasse;
Effraim yw fy helm,
a Jwda yw fy nheyrnwialen;
9Moab yw fy nysgl ymolchi,
ac at Edom y taflaf fy esgid;
ac yn erbyn Philistia y gorfoleddaf.”
10Pwy a'm dwg i'r ddinas gaerog?
Pwy a'm harwain i Edom?
11Onid ti, O Dduw, er iti'n gwrthod,
a pheidio â mynd allan gyda'n byddinoedd?
12Rho inni gymorth rhag y gelyn,
oherwydd ofer yw ymwared dynol.
13Gyda Duw fe wnawn wrhydri;
ef fydd yn sathru ein gelynion.
Dewis Presennol:
Y Salmau 108: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004