Y mae doethineb wedi adeiladu ei thŷ, ac yn naddu ei saith golofn; y mae wedi paratoi ei chig a chymysgu ei gwin a hulio ei bwrdd. Anfonodd allan ei llancesau, ac ar uchelfannau'r ddinas y mae'n galw, “Dewch yma, bob un sy'n wirion.” Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr, “Dewch, bwytewch gyda mi, ac yfwch y gwin a gymysgais. Gadewch eich gwiriondeb, ichwi gael byw; rhodiwch yn ffordd deall.” Dirmyg a gaiff yr un sy'n disgyblu gwatwarwr, a'i feio a gaiff yr un sy'n ceryddu'r drygionus. Paid â cheryddu gwatwarwr, rhag iddo dy gasáu; cerydda'r doeth, ac fe'th gâr di. Rho gyngor i'r doeth, ac fe â'n ddoethach; dysga'r cyfiawn, ac fe gynydda mewn dysg. Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau doethineb, ac adnabod y Sanctaidd yw deall. Oherwydd trwof fi y cynydda dy ddyddiau, ac yr ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd. Os wyt yn ddoeth, byddi ar dy elw; ond os wyt yn gwawdio, ti dy hun fydd yn dioddef. Y mae gwraig ffôl yn benchwiban, yn ddiddeall, heb wybod dim. Y mae'n eistedd wrth ddrws ei thŷ, ar fainc yn uchelfannau'r ddinas, yn galw ar y rhai sy'n mynd heibio ac yn dilyn eu gorchwylion eu hunain: “Dewch yma, bob un sy'n wirion.” Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr, “Y mae dŵr lladrad yn felys, a bara wedi ei ddwyn yn flasus.” Ond ni wyddant hwy mai meirwon yw'r rhai sydd yno, ac mai yn nyfnder Sheol y mae ei gwahoddedigion.
Darllen Diarhebion 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 9:1-18
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos