Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 9:1-18

Diarhebion 9:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae Doethineb wedi adeiladu ei thŷ; ac mae wedi naddu saith colofn iddo. Mae hi wedi paratoi gwledd, cymysgu’r gwin, a gosod y bwrdd. Mae hi wedi anfon ei morynion allan i alw ar bobl drwy’r dre. Mae’n dweud wrth bobl sy’n brin o synnwyr cyffredin, “Dewch yma, chi bobl wirion! Dewch i fwyta gyda mi, ac yfed y gwin dw i wedi’i gymysgu. Stopiwch fod mor ddwl, i chi gael byw; dechreuwch gerdded ffordd gall.” Ceisia gywiro rhywun balch sy’n gwawdio a chei lond ceg! Cerydda rywun drwg a byddi’n cael dy gam-drin. Cerydda’r un balch sy’n gwawdio, a bydd yn dy gasáu di; ond os gwnei di geryddu’r doeth bydd e’n diolch i ti. Rho gyngor i’r doeth, a byddan nhw’n ddoethach; dysga’r rhai sy’n byw yn iawn a byddan nhw’n dysgu mwy. Parchu’r ARGLWYDD ydy’r cam cyntaf i fod yn ddoeth, ac mae nabod yr Un Sanctaidd yn rhoi deall. Trwof fi byddi di’n cael byw yn hir; byddi’n cael blynyddoedd ychwanegol. Os wyt ti’n ddoeth, mae hynny’n beth da i ti; ond os wyt ti’n falch, ti fydd yn wynebu’r canlyniadau. Mae’r wraig arall, sef Ffolineb, yn gwneud lot o sŵn; mae hi’n wirion, ac yn deall dim byd. Mae hi’n eistedd wrth ddrws ei thŷ, neu ar fainc mewn lle amlwg yn y dre. Mae hi’n galw ar y rhai sy’n pasio heibio ac yn meindio’u busnes eu hunain. Mae’n dweud wrth bobl sy’n brin o synnwyr cyffredin, “Dewch yma, chi bobl wirion! Mae dŵr sydd wedi’i ddwyn yn felys, a bara sy’n cael ei fwyta ar y slei yn flasus!” Ond dŷn nhw ddim yn sylweddoli mai byd yr ysbrydion sydd y ffordd yna, a bod y rhai dderbyniodd ei gwahoddiad yn gwledda yn y bedd!

Diarhebion 9:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Doethineb a adeiladodd ei thŷ, hi a naddodd ei saith golofn. Hi a laddodd ei hanifeiliaid; hi a gymysgodd ei gwin, ac a huliodd ei bwrdd. Hi a yrrodd ei llawforynion: y mae yn llefain oddi ar fannau uchel y ddinas: Pwy bynnag sydd annichellgar, tröed i mewn yma: ac wrth yr annoeth y mae hi yn dywedyd, Deuwch, a bwytewch o’m bara, ac yfwch o’r gwin a gymysgais. Ymadewch â’r rhai ffôl, a byddwch fyw; a cherddwch yn ffordd deall. Yr hwn a geryddo watwarwr, a gaiff waradwydd iddo ei hun: a’r hwn a feio ar y drygionus, a gaiff anaf. Na cherydda watwarwr, rhag iddo dy gasáu: cerydda y doeth, ac efe a’th gâr di. Dyro addysg i’r doeth, ac efe fydd doethach: dysg y cyfiawn, ac efe a chwanega ei ddysgeidiaeth. Dechreuad doethineb yw ofn yr ARGLWYDD: a gwybodaeth y sanctaidd yw deall. Canys trwof fi yr amlheir dy ddyddiau, ac y chwanegir blynyddoedd dy einioes. Os doeth fyddi, doeth fyddi i ti dy hun: ond os gwatwarwr fyddi, tydi dy hun a’i dygi. Gwraig ffôl a fydd siaradus; angall yw, ac ni ŵyr ddim: Canys hi a eistedd ar ddrws ei thŷ, ar fainc, yn y lleoedd uchel yn y ddinas, I alw ar y neb a fyddo yn myned heibio, y rhai sydd yn cerdded eu ffyrdd yn uniawn: Pwy bynnag sydd ehud, tröed yma: a phwy bynnag sydd ddisynnwyr, a hi a ddywed wrtho, Dyfroedd lladrad sydd felys, a bara cudd sydd beraidd. Ond ni ŵyr efe mai meirw yw y rhai sydd yno; a bod ei gwahoddwyr hi yn nyfnder uffern.