Geiriau Agur fab Jaceh o Massa. Dyma'i eiriau i Ithiel, i Ithiel ac Ucal:
Yr wyf yn fwy anwar na neb;
nid oes deall dynol gennyf.
Ni ddysgais ddoethineb,
ac nid wyf yn dirnad deall yr Un Sanctaidd.
Pwy a esgynnodd i'r nefoedd, ac yna disgyn?
Pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddwrn?
Pwy a rwymodd y dyfroedd mewn gwisg?
Pwy a sefydlodd holl derfynau'r ddaear?
Beth yw ei enw, neu enw ei fab, os wyt yn gwybod?
Y mae pob un o eiriau Duw wedi ei brofi;
y mae ef yn darian i'r rhai sy'n ymddiried ynddo.
Paid ag ychwanegu dim at ei eiriau,
rhag iddo dy geryddu, a'th gael yn gelwyddog.
Gofynnaf am ddau beth gennyt;
paid â'u gwrthod cyn imi farw:
symud wagedd a chelwydd ymhell oddi wrthyf;
paid â rhoi imi dlodi na chyfoeth;
portha fi â'm dogn o fwyd,
rhag imi deimlo ar ben fy nigon, a'th wadu,
a dweud, “Pwy yw'r ARGLWYDD?”
Neu rhag imi fynd yn dlawd, a throi'n lleidr,
a gwneud drwg i enw fy Nuw.
Paid â difrïo gwas wrth ei feistr,
rhag iddo dy felltithio, a'th gael yn euog.
Y mae rhai yn melltithio'u tad,
ac yn amharchu eu mam.
Y mae rhai yn bur yn eu golwg eu hunain,
ond heb eu glanhau o'u haflendid.
Y mae rhai yn ymddwyn yn falch,
a'u golygon yn uchel.
Y mae rhai â'u dannedd fel cleddyfau,
a'u genau fel cyllyll,
yn difa'r tlawd o'r tir,
a'r anghenus o blith pobl.
Y mae gan y gele ddwy ferch
sy'n dweud, “Dyro, dyro.”
Y mae tri pheth na ellir eu digoni,
ie, pedwar nad ydynt byth yn dweud, “Digon”:
Sheol, a'r groth amhlantadwy,
a'r tir sydd heb ddigon o ddŵr,
a'r tân nad yw byth yn dweud, “Digon”.
Y llygad sy'n gwatwar tad,
ac yn dirmygu ufudd-dod i fam,
fe'i tynnir allan gan gigfrain y dyffryn,
ac fe'i bwyteir gan y fwltur.
Y mae tri pheth yn rhyfeddol imi,
pedwar na allaf eu deall:
ffordd yr eryr yn yr awyr,
ffordd neidr ar graig,
ffordd llong ar y cefnfor,
a ffordd dyn gyda merch.
Dyma ymddygiad y wraig odinebus:
y mae'n bwyta, yn sychu ei cheg,
ac yn dweud, “Nid wyf wedi gwneud drwg.”
Y mae tri pheth sy'n cynhyrfu'r ddaear,
pedwar na all hi eu dioddef:
gwas pan ddaw'n frenin,
ffŵl pan gaiff ormod o fwyd,
dynes atgas yn cael gŵr,
a morwyn yn disodli ei meistres.
Y mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach,
ond yn eithriadol ddoeth:
y morgrug, creaduriaid sydd heb gryfder,
ond sy'n casglu eu bwyd yn yr haf;
y cwningod, creaduriaid sydd heb nerth,
ond sy'n codi eu tai yn y creigiau;
y locustiaid, nad oes ganddynt frenin,
ond sydd i gyd yn mynd allan yn rhengoedd;
a'r fadfall, y gelli ei dal yn dy law,
ond sydd i'w chael ym mhalas brenhinoedd.
Y mae tri pheth sy'n hardd eu cerddediad,
pedwar sy'n rhodio'n urddasol:
llew, gwron ymhlith yr anifeiliaid,
nad yw'n cilio oddi wrth yr un ohonynt;
ceiliog yn torsythu; bwch gafr;
a brenin yn arwain ei bobl.
Os bu iti ymddwyn yn ffôl trwy ymffrostio,
neu gynllwynio drwg, rho dy law ar dy enau.
Oherwydd o gorddi llaeth ceir ymenyn,
o wasgu'r trwyn ceir gwaed,
ac o fegino llid ceir cynnen.