Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 30:1-33

Diarhebion 30:1-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Geiriau Agur fab Jaceh o Massa. Dyma'i eiriau i Ithiel, i Ithiel ac Ucal: Yr wyf yn fwy anwar na neb; nid oes deall dynol gennyf. Ni ddysgais ddoethineb, ac nid wyf yn dirnad deall yr Un Sanctaidd. Pwy a esgynnodd i'r nefoedd, ac yna disgyn? Pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddwrn? Pwy a rwymodd y dyfroedd mewn gwisg? Pwy a sefydlodd holl derfynau'r ddaear? Beth yw ei enw, neu enw ei fab, os wyt yn gwybod? Y mae pob un o eiriau Duw wedi ei brofi; y mae ef yn darian i'r rhai sy'n ymddiried ynddo. Paid ag ychwanegu dim at ei eiriau, rhag iddo dy geryddu, a'th gael yn gelwyddog. Gofynnaf am ddau beth gennyt; paid â'u gwrthod cyn imi farw: symud wagedd a chelwydd ymhell oddi wrthyf; paid â rhoi imi dlodi na chyfoeth; portha fi â'm dogn o fwyd, rhag imi deimlo ar ben fy nigon, a'th wadu, a dweud, “Pwy yw'r ARGLWYDD?” Neu rhag imi fynd yn dlawd, a throi'n lleidr, a gwneud drwg i enw fy Nuw. Paid â difrïo gwas wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio, a'th gael yn euog. Y mae rhai yn melltithio'u tad, ac yn amharchu eu mam. Y mae rhai yn bur yn eu golwg eu hunain, ond heb eu glanhau o'u haflendid. Y mae rhai yn ymddwyn yn falch, a'u golygon yn uchel. Y mae rhai â'u dannedd fel cleddyfau, a'u genau fel cyllyll, yn difa'r tlawd o'r tir, a'r anghenus o blith pobl. Y mae gan y gele ddwy ferch sy'n dweud, “Dyro, dyro.” Y mae tri pheth na ellir eu digoni, ie, pedwar nad ydynt byth yn dweud, “Digon”: Sheol, a'r groth amhlantadwy, a'r tir sydd heb ddigon o ddŵr, a'r tân nad yw byth yn dweud, “Digon”. Y llygad sy'n gwatwar tad, ac yn dirmygu ufudd-dod i fam, fe'i tynnir allan gan gigfrain y dyffryn, ac fe'i bwyteir gan y fwltur. Y mae tri pheth yn rhyfeddol imi, pedwar na allaf eu deall: ffordd yr eryr yn yr awyr, ffordd neidr ar graig, ffordd llong ar y cefnfor, a ffordd dyn gyda merch. Dyma ymddygiad y wraig odinebus: y mae'n bwyta, yn sychu ei cheg, ac yn dweud, “Nid wyf wedi gwneud drwg.” Y mae tri pheth sy'n cynhyrfu'r ddaear, pedwar na all hi eu dioddef: gwas pan ddaw'n frenin, ffŵl pan gaiff ormod o fwyd, dynes atgas yn cael gŵr, a morwyn yn disodli ei meistres. Y mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach, ond yn eithriadol ddoeth: y morgrug, creaduriaid sydd heb gryfder, ond sy'n casglu eu bwyd yn yr haf; y cwningod, creaduriaid sydd heb nerth, ond sy'n codi eu tai yn y creigiau; y locustiaid, nad oes ganddynt frenin, ond sydd i gyd yn mynd allan yn rhengoedd; a'r fadfall, y gelli ei dal yn dy law, ond sydd i'w chael ym mhalas brenhinoedd. Y mae tri pheth sy'n hardd eu cerddediad, pedwar sy'n rhodio'n urddasol: llew, gwron ymhlith yr anifeiliaid, nad yw'n cilio oddi wrth yr un ohonynt; ceiliog yn torsythu; bwch gafr; a brenin yn arwain ei bobl. Os bu iti ymddwyn yn ffôl trwy ymffrostio, neu gynllwynio drwg, rho dy law ar dy enau. Oherwydd o gorddi llaeth ceir ymenyn, o wasgu'r trwyn ceir gwaed, ac o fegino llid ceir cynnen.

Diarhebion 30:1-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Geiriau Agwr fab Iace, o Massa. Dyma neges y dyn: Nid Duw ydw i. Nid Duw ydw i; dydy’r gallu ddim gen i. Dw i’n greadur rhy ddwl i fod yn ddynol! Does gen i ddim sens. Dw i heb ddysgu bod yn ddoeth, a dw i’n gwybod dim am yr Un Sanctaidd. Pwy sydd wedi mynd i fyny i’r nefoedd, a dod yn ôl i lawr eto? Pwy sydd wedi gallu dal gafael yn y gwynt? Pwy sydd wedi lapio’r moroedd mewn mantell? Pwy sydd wedi mesur y ddaear o un pen i’r llall? Beth ydy ei enw e, ac enw ei fab? – Dywed os wyt ti’n gwybod. Mae pob un o eiriau Duw wedi’u profi. Mae e’n darian i amddiffyn y rhai sy’n ei drystio. Paid ychwanegu dim at ei eiriau, rhag iddo dy geryddu di, a phrofi dy fod ti’n dweud celwydd. Dw i’n gofyn am ddau beth gen ti – rho nhw i mi cyn i mi farw: Yn gyntaf, cadw fi rhag dweud celwydd a thwyllo; ac yn ail, paid rhoi tlodi na chyfoeth i mi, ond rho ddigon o fwyd i mi bob dydd. Ie, cadw fi rhag teimlo fod popeth gen i, ac yna dy wrthod di, a dweud, “Pwy ydy’r ARGLWYDD?” A chadw fi rhag dwyn am fy mod yn dlawd, a rhoi enw drwg i Dduw. Paid hel straeon am gaethwas wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio di, ac i ti orfod talu’r pris. Mae yna bobl sy’n melltithio’u tadau, ac sydd ddim yn fendith i’w mamau. Mae yna bobl sy’n meddwl eu bod nhw’n dda, ond sydd heb eu glanhau o garthion eu pechod. Mae yna bobl sydd mor snobyddlyd; maen nhw’n meddwl eu bod nhw’n well na pawb arall! Mae yna bobl sydd â dannedd fel cleddyfau, a’u brathiad fel cyllyll. Maen nhw’n llarpio pobl dlawd y tir, a’r rhai hynny sydd mewn angen. Mae gan y gele ddwy ferch, “Rho fwy!” a “Rho fwy!” Mae tri peth sydd byth yn fodlon, pedwar sydd byth yn dweud, “Dyna ddigon!”: y bedd, croth ddiffrwyth, tir sydd angen dŵr, a thân – dydy’r rhain byth yn dweud “Digon!” Llygad sy’n gwneud sbort am dad ac yn malio dim am wrando ar mam – bydd hi’n cael ei thynnu allan gan gigfrain, a’i bwyta gan y fwltur. Mae tri peth y tu hwnt i mi, pedwar fydda i byth yn eu darganfod: ffordd yr eryr drwy’r awyr; ffordd y neidr dros graig; llwybr llong yn hwylio’r moroedd; a llwybr cariad dyn a merch. Ond ffordd gwraig anffyddlon i’w gŵr ydy: bwyta, sychu ei cheg, a dweud, “Wnes i ddim byd o’i le.” Mae tri peth yn gwneud i’r ddaear grynu, pedwar peth all hi ddim eu diodde: caethwas yn cael ei wneud yn frenin; ffŵl yn cael gormod i’w fwyta; gwraig heb ei charu yn priodi; a morwyn yn cymryd gŵr ei meistres. Mae pedwar peth ar y ddaear sy’n fach, ond sy’n ddoeth dros ben: morgrug, sy’n greaduriaid bach gwan, ond sy’n casglu eu bwyd yn yr haf. Brochod y graig, sydd ddim yn gryf chwaith, ond sy’n gwneud eu cartrefi yn y creigiau. locustiaid, sydd heb frenin i’w rheoli, ond sy’n mynd allan mewn rhengoedd trefnus; a madfallod – gelli eu dal yn dy law, ond gallan nhw fynd i mewn i balasau brenhinoedd! Mae tri peth sy’n cerdded yn urddasol, pedwar sy’n symud mor hardd: y llew, y cryfaf o’r anifeiliaid, sy’n ffoi oddi wrth ddim byd. ceiliog yn torsythu, bwch gafr, a brenin yn arwain ei bobl. Os wyt ti wedi actio’r ffŵl wrth frolio, neu wedi bod yn cynllwynio drwg, dal dy dafod! Fel mae corddi llaeth yn gwneud menyn, a tharo’r trwyn yn tynnu gwaed, mae gwylltio pobl yn arwain i wrthdaro.

Diarhebion 30:1-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Geiriau Agur mab Jace, sef y broffwydoliaeth: y gŵr a lefarodd wrth Ithiel, wrth Ithiel, meddaf, ac Ucal. Yn wir yr ydwyf yn ffolach na neb, ac nid oes deall dyn gennyf. Ni ddysgais ddoethineb, ac nid oes gennyf wybodaeth y sanctaidd. Pwy a esgynnodd i’r nefoedd, neu a ddisgynnodd? pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddyrnau? pwy a rwymodd y dyfroedd mewn dilledyn? pwy a gadarnhaodd holl derfynau y ddaear? beth yw ei enw ef, a pheth yw enw ei fab, os gwyddost? Holl air DUW sydd bur: tarian yw efe i’r neb a ymddiriedant ynddo. Na ddyro ddim at ei eiriau ef, rhag iddo dy geryddu, a’th gael yn gelwyddog. Dau beth yr ydwyf yn eu gofyn gennyt, na omedd hwynt i mi cyn fy marw. Tyn ymhell oddi wrthyf wagedd a chelwydd; na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth; portha fi â’m digonedd o fara. Rhag i mi ymlenwi, a’th wadu di, a dywedyd, Pwy yw yr ARGLWYDD? a rhag i mi fyned yn dlawd, a lladrata, a chymryd enw fy NUW yn ofer. Nac achwyn ar was wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio, a’th gael yn euog. Y mae cenhedlaeth a felltithia ei thad, a’i mam ni fendithia. Y mae cenhedlaeth lân yn ei golwg ei hun, er nas glanhawyd oddi wrth ei haflendid. Y mae cenhedlaeth, O mor uchel yw ei llygaid! a’i hamrantau a ddyrchafwyd. Y mae cenhedlaeth a’i dannedd yn gleddyfau, a’i childdannedd yn gyllyll, i ddifa y tlodion oddi ar y ddaear, a’r anghenus o blith dynion. I’r gele y mae dwy ferch, yn llefain, Moes, moes. Tri pheth ni ddiwellir: ie, pedwar peth ni ddywedant byth, Digon: Y bedd; y groth amhlantadwy; y ddaear ni ddiwellir â dyfroedd; a’r tân ni ddywed, Digon. Llygad yr hwn a watwaro ei dad, ac a ddiystyro ufuddhau ei fam, a dynn cigfrain y dyffryn, a’r cywion eryrod a’i bwyty. Tri pheth sydd guddiedig i mi; ie, pedwar peth nid adwaen: Ffordd eryr yn yr awyr, ffordd neidr ar graig, ffordd llong yng nghanol y môr, a ffordd gŵr gyda morwyn. Felly y mae ffordd merch odinebus; hi a fwyty, ac a sych ei safn, ac a ddywed, Ni wneuthum i anwiredd. Oherwydd tri pheth y cynhyrfir y ddaear, ac oherwydd pedwar, y rhai ni ddichon hi eu dioddef: Oherwydd gwas pan deyrnaso; ac un ffôl pan lanwer ef o fwyd; Oherwydd gwraig atgas pan brioder hi; a llawforwyn a elo yn aeres i’w meistres. Y mae pedwar peth bychain ar y ddaear, ac eto y maent yn ddoeth iawn: Nid yw y morgrug bobl nerthol, eto y maent yn darparu eu lluniaeth yr haf; Y cwningod nid ydynt bobl rymus, eto hwy a wnânt eu tai yn y graig; Y locustiaid nid oes brenin iddynt, eto hwy a ânt allan yn dorfeydd; Y pryf copyn a ymafaela â’i ddwylo, ac y mae yn llys y brenin. Y mae tri pheth a gerddant yn hardd, ie, pedwar peth a rodiant yn weddus: Llew cryf ymhlith anifeiliaid, ni thry yn ei ôl er neb; Milgi cryf yn ei feingefn, a bwch, a brenin, yr hwn ni chyfyd neb yn ei erbyn. Os buost ffôl yn ymddyrchafu, ac os meddyliaist ddrwg, dyro dy law ar dy enau. Yn ddiau corddi llaeth a ddwg allan ymenyn, a gwasgu ffroenau a dynn allan waed: felly cymell llid a ddwg allan gynnen.